Back
Adroddiad Estyn ar Ysgol Uwchradd Cantonian: Archwilwyr yn canmol ysgol yn ‘Dda' ym mhob un o'r pum categori

Mae disgyblion, staff a llywodraethwyr yn dathlu ar ôl i Estyn sgorio Ysgol Uwchradd Cantonian yn dda ym mhob un o'r pum categori yr edrychir arnynt gan arolygaeth addysg Cymru, yr ail sgôr uchaf bosibl.

Yn dilyn ymweliad diweddar â'r ysgol, canfu archwilwyr Estyn fod ‘llawer o ddisgyblion yn gwneud cynnydd da yn ystod eu hamser yn yr ysgol.'

Hefyd dywedodd yr archwilwyr y canfuwyd bod gan yr ysgol ‘ethoscynhwysol a chefnogol sy'n cefnogi pob disgybl, gan gynnwys disgyblion agored i niwed, yn dda, trwy ddefnyddio ystod o fentrau.'

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Cantonian High School\DSC_3098.jpg

Mae'r adroddiad yn mynd ymlaen i ddweud bod athrawon a chynorthwywyr addysgu'n ‘datblygu perthnasau gweithio cynhyrchiol â disgyblion, bod ganddynt ddisgwyliadau uchel o ymddygiad a'u bod yn canmol yn dda i ysgogi disgyblion i wneud cynnydd da yn eu dysgu ac i gyflawni i'r eithaf.' O ganlyniad, mae canlyniadau TGAU dros y pedair blynedd diwethaf wedi cymharu'n ffafriol ag ysgolion tebyg eraill, gyda disgyblion yn gwneud cynnydd mwy na'r disgwyl mewn llawer o feysydd.

Gwelwyd yr archwilwyr bod y rhan fwyaf o'r disgyblion yn ymddwyn yn dda mewn gwersi ac o gwmpas yr ysgol, a'u bod yn parchu eu hathrawon a'u cyfoedion.Canfuont fod yr ysgol yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i ddisgyblion gymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n cyfoethogi eu dysgu ac o ganlyniad, mae bron pob disgybl yn datblygu'n llwyddiannus yn ddinasyddion moesegol a llawn gwybodaeth.

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Cantonian High School\DSC_4235.jpg

Hefyd cydnabu Estyn fod y Pennaeth yn ‘arwain yn benderfynol a bod ganddo weledigaeth glir o ddisgwyliad uchel i bawb'.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau:"Rwy'n falch ar ran Mrs Gill, y staff, y llywodraethwyr a'r disgyblion yn Ysgol Uwchradd Cantonian.Maen nhw wedi gweithio'n eithriadol galed ac mae'r adroddiad diweddar hwn gan Estyn yn deyrnged i benderfyniad ac ymrwymiad pawb sy'n ymwneud â'r ysgol."

Gan ymateb i ganfyddiadau Estyn, dywedodd y Pennaeth, Diane Gill:"Mae'r cynnydd mae'r ysgol wedi'i wneud ers ei harchwiliad diwethaf ym mis Chwefror 2015, lle y cafodd ei rhoi yng nghategori Estyn ‘angen gwella'n sylweddol', yn go arbennig ac ystyrir mai Ysgol Uwchradd Cantonian yw'r ysgol sydd wedi gwella fwyaf yng Nghaerdydd.

"Fodd bynnag, nid yw ysgol yn gwella ar ei phen ei hun; mae digwydd trwy weithio mewn partneriaeth tuag at nod a rennir ac mae ein rhieni a'n gofalwyr wedi bod yn gyfrannol yn y daith hon.Fel yr arfer, dydw i ddim byth yn hunanfodlon; mae'r penderfyniad a'r uchelgais yn parhau.Rydw i am i bob plentyn sy'n ymuno ag Ysgol Uwchradd Cantonian gyflawni i'r eithaf.Mae staff yn yr ysgol wedi ymrwymo i sicrhau bod pob plentyn yn cael y profiad dysgu ac addysgu o'r ansawdd uchaf sy'n eu paratoi'n dda ar gyfer bywyd ar ôl yr ysgol."

 

Dywedodd Cadeirydd Llywodraethwyr yr ysgol, Alvyn Morgan:"Mae'r llywodraethwyr yn falch o'r cynnydd sydd wedi'i gyflawni ac yn diolch i'r staff am ymdrech rhagorol wedi'i gynnal yn ystod cyfnod heriol i'r ysgol.Gan edrych i'r dyfodol, gall yr ysgol nawr ymdrechu i gyflawni safonau hyd yn oed yn uwch a fydd yn cymharu â'r perfformwyr gorau yn y Ddinas. Mae Ysgol Uwchradd Cantonian yn cynrychioli stori lwyddiant ac mae gan yr ysgol ddyfodol addawol."

Yn rhan o raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Band B y Cyngor, mae cynigion wedi'u cynnig i adeiladu campws addysg yny Tyllgoed a fydd yn darparu llety addysg newydd i Ysgol Uwchradd Cantonian ynghyd â dwy ysgol arall yng Nghaerdydd.

Cartref cyfredol Ysgol Uwchradd Cantonian yw safle Doyle Avenue a chyda dros 11 hectar, mae'n cynnig cyfle i Gyngor Caerdydd adeiladu Ysgol Uwchradd Cantonian newydd, Ysgol Arbennig Woodlands newydd ac Ysgol Arbennig Riverbank newydd, ar un campws.

Ychwanegodd y Cyng. Merry; "Mae'r archwiliad hwn yn nodi dechrau dyfodol cyffrous i Ysgol Uwchradd Cantonian.Os cytunir ar y cynnig hwn, byddai safle Doyle Avenue yn creu cyfle i adeiladu cyfleusterau effeithlon newydd i Ysgol Uwchradd Cantonian gan sicrhau y bydd gan fyfyrwyr yn yr ysgol fynediad at amgylchedd dysgu o'r safon uchaf i gefnogi a gwella addysgu a dysgu."