Back
Cyngor teithio ar gyfer Eisteddfod yr Urdd ym Mae Caerdydd


 

Mae Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn cael ei chynnal ym Mae Caerdydd o 27 Mai tan 1 Mehefin. 

Disgwylir i ryw 90,000 o bobl ymweld â'r ŵyl yn ystod yr wythnos i fwynhau'r cystadlaethau, stondinau a'r gweithgareddau i'r teulu yn Roald Dahl Plass.

Er mwyn cynnal y digwyddiad yn ddiogel bydd rhai ffyrdd ynghau a rhoddir system wrthlif ar waith o amgylch y Flourish ar Rodfa Lloyd George o 8pm ddydd Gwener 24 Mai tan tua 6pm ddydd Sul 2 Mehefin.

Bydd Plas Bute hefyd ar gau rhwng y gyffordd â Stryd Pen y Lanfa a Rhodfa Lloyd George.

Bydd modd i gerddwyr a beicwyr barhau i deithio drwy'r Bae, ond bydd rhai dargyfeiriadau bach ar waith drwy gydol y digwyddiad.

Does dim cyfleusterau parcio ceir wedi'u neilltuo ar gyfer safle'r Eisteddfod ac anogir ymwelwyr i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, i feicio neu i gerdded i'r digwyddiad lle bo hynny'n bosibl.

 

TRENAU:

 

Mae trenau'n mynd bob 12 munud o orsaf Heol-y-Frenhines i orsaf drenau Bae Caerdydd, sydd o fewn pellter cerdded hawdd i Faes yr Eisteddfod. Gallwch weld y manylion llawn a'r amserlenni ar wefan Trafnidiaeth Cymru:https://trctrenau.cymru/cy/eisteddfod-yr-urdd-2019?_ga=2.188915307.1357244338.1558683863-1197964661.1558683863

 

BYSUS:

 

Bydd safle bws Bae Caerdydd y tu allan i Ganolfan Mileniwm Cymru ar gau drwy gydol y digwyddiad. Bydd holl wasanaethau bysus Stagecoach yn cael eu dargyfeirio oddi ar Rodfa Lloyd George, heibio Neuadd y Sir ac yn defnyddio'r safle bws y tu allan i westy Travelodge ar Hemmingway Road, sy'n wynebu tua'r gorllewin.

Mae Bws Caerdydd yn darparu nifer o wasanaethau bysus o'r Ddinas i Fae Caerdydd, gan gynnwys:

6 - Bae Caerdydd, yr Orsaf Ganolog, Gorsaf Stryd-y-Frenhines, Parc Cathays (bob tua 10 munud)

8 - Bae Caerdydd, Plas Dumfries, Crwys Street, Ysbyty'r Waun

Gallwch weld y manylion llawn a'r amserlenniar y wefan

 

MaeNATyn trefnu gwasanaethau bysus i'r Bae, gan gynnwys:

X8 - Bae Caerdydd, Heol y Porth, Caerphilly Road, Draenen Pen-y-graig

Gallwch weld y manylion llawn a'r amserlenniar y wefan.

Am ragor o wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardal, cysylltwch âTraveline Cymruar 0800 464 00 00