Ddydd Sadwrn, 18 Mai, bydd rhai strydoedd yng nghanol y ddinas yn cael eu cau o 1pm tan 7pm ar gyfer y digwyddiad Monster Jam yn Stadiwm Principality. Bydd y brif sioe yn cychwyn am 3pm ac yn gorffen am 5pm.
Dylai pob deiliaid tocyn nodi y bydd trefniadau diogelwch estynedig ar waith wrth fynd i mewn i'r stadiwm. Cynghorir cefnogwyr i adael bagiau mawr gartref a thalu sylw i'r rhestr o eitemau a waherddir ynprincipalitystadium.walescyn teithio i'r ddinas.
Cau ffyrdd
Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar y diwrnod hwnnw i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr fydd yn ciwio.
Caiff y ffyrdd canlynol eu cau yn rhan o batrwm cau ffyrdd canol y ddinas (12.30pm tan 8.30pm)
Ychwanegiadau:
Y Ganolfan Ddinesig: Caiff mynediad at ran o'r Ganolfan Ddinesig ei reoli drwy gydol y dydd, gyda mynediad yn unig ar gyfer parcio cyn y digwyddiad, rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a mynediad at feysydd parcio preifat.
Mae'r ffyrdd fydd wedi eu heffeithio yn cynnwys: Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi'r Orsedd.
Noder:
Os bydd unrhyw bryderon diogelwch oherwydd tyrfaoedd yn ciwio i gael mynd i mewn i'r stadiwm cyn i'r gatiau agor, efallai y bydd angen cau Stryd Wood a Heol y Porth yn gynharach, yn ogystal â chau lonydd gyferbyn â Gât 1 ar Heol Ddwyreiniol y Bont-faen.
Os bydd unrhyw bryderon ynghylch y system giwio yng Ngorsaf Caerdydd Canolog, yna bydd Stryd Wood, Heol y Porth, Heol y Parc, Stryd Havelock, Heol Eglwys Fair, Heol Penarth, Heol Saunders a Heol y Tollty oll yn aros ynghau hyd nes bydd y pryderon diogelwch hynny wedi eu datrys.
Cynghorir cefnogwyr felly i gynllunio i gyrraedd y stadiwm mewn digon o amser, gadael bagiau mawr gartref a thalu sylw i'r eitemau na chaniateir arwww.principalitystadium.cymru
Trenau
Mae Network Rail yn hysbysu cwsmeriaid na fydd Gwaith peirianneg sylweddol yn effeithio ar y prif linellau gwasanaeth i Gaerdydd. Cynghorir teithwyr i gynllunio eu taith o flaen llaw ynwww.nationalrail.co.uk neu wrth ffonio Travel Line Cymru ar 0800 464 0000.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn rhybuddio'i holl gwsmeriaid bod disgwyl y bydd y trenau yn ardal Caerdydd yn brysur iawn trwy'r dydd. Cynghorir y rhai sy'n teithio i'r ddinas i weld y digwyddiad i gyrraedd cyn gynted â phosibl.
Bydd system rheoli traffig lawn yng Ngorsaf Ganolog Caerdydd.
Bydd Gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd yn aros ar agor yn ystod y digwyddiad hwn. Am ragor o wybodaeth am wasanaethau Trafnidiaeth Cymru, ewch iwww.tfwrail.wales/events
Parcio a Theithio ar gyfer Digwyddiad
Bydd gwasanaeth Parcio a Theithio ar gael yn Lecwydd, a gellir mynd yno o gyffordd 33 yr M4 ac yna dilyn yr arwyddion i'r safle.
I gadw lle Parcio a Theithio ymlaen llaw, ewch i -https://zeelo.co/rides/Wales-Rugby/coaches-park-ride-and-premium-parking-for-monster-jam-16306
Y man gollwng yw Fitzhamon Embankment.
Mae'r safle Parcio a Theithio 1.5 milltir o ganol y ddinas, sy'n cymryd oddeutu 10 i 15 munud.
Os byddwch yn cadw lle ymlaen llaw, y gost fydd £8, neu £10 ar y diwrnod (arian parod yn unig).
Bydd staff yn cyrraedd y maes parcio am 8.30am a bydd y safle yn agor am 9.00am, gyda'r bws cyntaf yn gadael am 9.30am. Bydd y bws olaf yn gadael y man casglu am 7pm a bydd y maes parcio'n cau am 7.30pm.
Traffyrdd a phriffyrdd
Fel yn achos pob digwyddiad mawr, anogir deiliaid tocynnau i gynllunio ymlaen llaw gan roi ystyriaeth i draffyrdd a phriffyrdd prysur. Disgwylir i goridor yr M4 a Chaerdydd fod yn brysur iawn.
Parcio ar y Diwrnod
Gerddi Sophia (ceir)
(Tua 0.5 milltir o gerdded i Stadiwm Principality, Gât 2).
Parcio ar gyfer Digwyddiad yng Ngerddi Sophia
Cyrraedd yno: Gadael cyffordd 32 yr M4
Cost: £15 i'w dalu yn y maes parcio (arian parod yn unig)
Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.
Noder: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 6.30pm; gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau a adawir yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.
Parcio ar gyfer Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig (ceir)
Cyrraedd yno: Gadewch gyffordd 32 yr M4, ewch tua'r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i'r ganolfan ddinesig.
Cost: Os byddwch yn cadw lle ymlaen llaw, y gost fydd £15, neu £12 ar y diwrnod (arian parod yn unig). I gadw lle parcio ymlaen llaw, cliciwch ar: https://zeelo.co/rides/Wales-Rugby/cars-park-ride-and-premium-parking-for-monster-jam-16305
Parcio Diwrnod Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig (bysus mawr)
Cost: £25 yn daladwy ar y dydd (arian parod yn unig) neu £25 wrth archebu o flaen llaw -https://zeelo.co/rides/Wales-Rugby/coaches-park-ride-and-premium-parking-for-monster-jam-16306
Amser parcio: Mae'r maes parcio'n agor am 7.30am a bydd yn rhaid i bob car fod wedi ei symud neu ddangos tocyn talu ac arddangos erbyn 8am ddydd Sul Mai 19.
Allwch chi feicio neu gerdded?
Gall y rheiny sy'n byw yn lleol yng Nghaerdydd deithio drwy gerdded neu feicio. Mae ymchwil yn dangos bod 52% o'r holl deithiau ceir yng Nghaerdydd yn llai na 5km o hyd. Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio yn gyfforddus mewn 20 munud.
Gwyddom hefyd y byddai 28% o drigolion Caerdydd nad ydynt yn beicio ar hyn o bryd yn dymuno gallu gwneud hynny.
Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol fyth gan y byddai teithio ar feic yn gynt na char ar yr oriau brig neu yn ystod digwyddiadau.
Parcio i Bobl Anabl
Cynghorir gyrwyr anabl i ddefnyddio Gerddi Sophia. Mae llefydd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol. Gweler argaeledd ar wefannau unigol.
Tacsis
Bydd safle tacsi Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser) yn cau am 1pm ac yn ailagor am 7pm.
Bws
Mae Bws Caerdydd yn hysbysu ei holl gwsmeriaid y bydd y gwasanaethau'n gwyro oddi wrth safleoedd bws canol y ddinas o 1pm tan 7pm. Bydd bysus a gaiff eu symud o safleoedd yn y safle fydd ar gau yn nail ai Ffordd Churchill ar gyfer y dwyrain, Ffordd y Brodyr Llwydion ar gyfer y gogledd neu Stryd Tudor ar gyfer y gorllewin.
Mae'r holl wybodaeth am wasanaethau Bws Caerdydd ar gael yma -https://www.cardiffbus.com/principality-stadium
National Express:
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel arfer.