Back
Cynllun tai bach agored mewn ysgolion Caerdydd

Nid oes unrhyw giwbiclau tai bach cymysg mewn unrhyw un o'n hysgolion, ond mae ein hysgolion diweddaraf yn ymgorffori cynllun agored. 

Mae pob ciwbicl yn breifat ac yn annibynnol, wedi'i wahanu gan waliau a drws o'r llawr i'r nenfwd. Mae'r rhain i'r chwith ac i'r dde o sinciau golchi dwylo canolog a chanolfur sy'n rhannu'r ddwy ochr. 

Mae'r arwyddion yn nodi un ochr i ferched yn unig, a'r ochr arall i fechgyn yn unig. 

Mae ysgolion newydd sy'n cael eu hadeiladu drwy raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn fodern, yn olau ac yn agored. 

Dewis Llywodraeth Cymru yw bod ysgolion newydd yn defnyddio cynllun tai bach agored. 

Mae'r broses o ddylunio pob un o'n hysgolion newydd yn cynnwys ymgynghori â disgyblion, myfyrwyr, athrawon, Llywodraethwyr a rhanddeiliaid eraill, gan sicrhau bod ystod o farn yn hysbysu'r cynllun terfynol. 

Gellir gweld enghreifftiau o'r cynllun tai bach agored yn y lluniau hyn: