Back
Caerdydd i hybu urddas mislif mewn ysgolion


Caiff cynllun newydd ei gyflwyno mewn ysgolion cynradd ac uwchradd i hybu urddas mislif ymysg merched a menywod ifanc yng Nghaerdydd yn dechrau o dymor y gwanwyn 2019. 

Nod y project hwn, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac sy'n werth £1.14 miliwn, yw helpu mynd i'r afael â thlodi mislif mewn cymunedau, wrth wella cyfleusterau mewn ysgolion i sicrhau urddas i'r merched a'r menywod ifanc.Mae'r rhaglen hefyd yn cyfrannu at ymrwymiad Caerdydd i fod yn Ddinas sy'n Dda i Blant lle mae barn a blaenoriaethau plant wrth wraidd y gwaith o wneud penderfyniadau. 

Yr haf diwethaf, cynhaliwyd arolwg urddas mislif yn ysgolion uwchradd Caerdydd i gael barn menywod ifanc am y mater o urddas mislif ac i ymgynghori ynghylch a fydden nhw'n hoffi cael nwyddau hylendid benywaidd am ddim.Canfuwyd y canlynol: 

  • Er bod mwyafrif yr ysgolion yn cynnig nwyddau hylendid am ddim ar hyn o bryd, roedd llai na hanner y disgyblion ysgolion uwchradd yn ymwybodol o hyn.
  • Nododd hanner o'r myfyrwyr a ymatebodd i'r arolwg, fod nwyddau hylendid ar gael o ardal dderbynfa yr ysgol ar hyn o bryd ond y byddent yn hoffi eu cael mewn peiriant dosbarthu tu mewn i giwbiclau'r toiledau.
  • Teimlai bron i draean o'r myfyrwyr fod eu mislif wedi effeithio'n negyddol ar eu presenoldeb yn yr ysgol gyda dau allan o bob pum myfyriwr yn credu bod eu mislif wedi effeithio'n negyddol ar eu perfformiad ysgol. 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry "MaeCyngor Caerdydd wedi ymrwymo i fod yn Ddinas Sy'n Dda i Blant lle mae lleisiau a hawliau plant yn rhan annatod o bolisïau, rhaglenni a phenderfyniadau cyhoeddus.

"Gwnaethom gynnal yr arolwg Urddas Mislif fel y gallen ni sicrhau bod barn merched a menywod ifanc yn cael ei chlywed a'n bod yn gweithredu arni, wrth inni geisio gweithio gyda phlant a phobl ifanc i ganfod problemau a sicrhau datrysiadau ar y cyd. 

"Mae hyn yn cynnwys gwaredu rhwystrau i addysg, megis sicrhau y caiff merched a menywod ifanc mewn ysgolion cynradd ac uwchradd eu trin gydag urddas a pharch, gan gynnwys cael mynediad at nwyddau hylendid benywaidd am ddim." 

Cynhaliwyd rhaglen dreialu wedyn yn Ysgol Uwchradd y Dwyrain, Ysgol Uwchradd Cathays, Ysgol Gynradd Adamsdown ac Ysgol Gynradd Grangetown.Roedd prif elfennau y rhaglen dreialu yn cynnwys: 

  • Mynediad am ddim at nwyddau hylendid o fewn ciwbiclau toiled penodol ac mewn 'Blychau Coch' dan ofal staff penodol;
  • Codi ymwybyddiaeth o'r rhaglen ymysg aelodau staff a myfyrwyr drwy gynnal cyflwyniadau, gwasanaethau, arddangos posteri a sticeri ar ddrysau'r ciwbiclau.
  • Grwpiau ffocws gyda myfyrwyr benywaidd am addysg ar fislif, gyda'r bwriad o ddatblygu gwersi ac adnoddau perthnasol ar gyfer ysgolion i ddiwallu anghenion pobl ifanc;
  • Cael gwerthusiad gan staff yr ysgol a myfyrwyr benywaidd yn ysgolion y rhaglen dreialu.

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry:Mae'n hollbwysig na fydd ein menywod ifanc a'n merched byth yn teimlo cywilydd o ran eu mislif a bydd y project hwn yn helpu i fynd i'r afael â hyn yn ogystal â'r mater o fforddiadwyedd.  

"Bydd y £117.000 a ddyrannir i Gaerdydd yn helpu i sicrhau bod yr holl ferched a menywod ifanc yn cael mynediad at gyfleusterau hylendid da pan fydd angen arnynt, gan gynnwys nwyddau hylendid benywaidd am ddim a biniau hylendid ychwanegol."