Bydd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, y Prif Weithredwr Paul Orders a chynrychiolwyr Undebau Llafur yn nodi Dydd y Cadoediad ddydd Llun 12 Tachwedd drwy osod torchau wrth Gofeb Staff Neuadd y Ddinas fel teyrnged i holl staff y cyngor sydd wedi colli eu bywydau mewn rhyfeloedd.
Cynhelir dwy funud o dawelwch am 11am i gofio’r rheini a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd, yn ogystal â phob brwydr y mae ein Lluoedd Arfog wedi bod yn rhan ohoni ers 1945.
Bydd Caplan Anrhydeddus y Cyngor, y Parchedig Ganon Stewart Lisk, yn agor y gwasanaeth â Gweddi, gyda dwy funud o dawelwch i ddilyn. Am 11.02am, bydd y Caplan Anrhydeddus yn gofyn i Paul Orders, ac yna aelodau o’r Undebau Llafur ac, yn olaf, Arweinydd y Cyngor i osod torchau, gyda’r Parchedig Lisk yn rhoi Bendith i gloi.
Cynhelir dwy funud o dawelwch ym mhob un o adeiladau’r cyngor am 11am hefyd.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor
Caerdydd:“Bydd
Dydd y Cadoediad yn cael ei nodi yng Nghaerdydd ddydd Llun 12 Tachwedd pan fydd
Neuadd y Ddinas yn cynnal gwasanaeth coffa i staff gyda thorchau’n cael eu
gosod. Bydd larymau’n seinio ar draws ein prif adeiladau i nodi
dwy funud o dawelwch i gofio Dydd y Cadoediad; teyrnged i’r holl ddynion a
menywod o’r lluoedd arfog a’r cyngor a roddodd eu bywydau mewn brwydrau.”