Back
Mae'n hanner tymor heb ei ail yng Nghaerdydd y mis Hydref hwn. Dyma'r hyn sy'n mynd yn ei flaen:

Dydd Sadwrn 27 Hydref

Taith Gerdded yn yr Ardd Goed - Parc Bute

Mae gardd goed Parc Bute yn gartref i goed addurniadol anhygoel.Ar y daith gerdded hon, o dan arweiniad Malcom Frazer, byddwch yn archwilio ac yn dysgu am rai o'r 3,000 o goed sydd wedi cael eu catalogio'n unigol yng nghalon werdd y ddinas.Cwrdd yn Nghaffi'r Tŷ Haf ym Mharc Bute, CF10 3DX.AM DDIM

https://www.independentage.org/get-involved/volunteering-roles/search?postcode_lookup=cf23&distance=10

Ras y Pabi - Parc Bute

Ymunwch â Ras Babi'r Lleng Brydeinig Filwrol, Caerdydd 2018. Dewiswch redeg, loncian neu gerdded y cwrs - mae'r digwyddiad yn agored ar gyfer pob oed a gallu, gan gynnwys ein ffrindiau sydd â phedair coes.

http://parc-bute.com

Llwybr Calan Gaeaf yng Nghastell Caerdydd (27 Hydref - 4 Tachwedd)

Atebwch y cliwiau o amgylch y safle er mwyn casglu gwobr a chael eich cynnwys yn ein raffl fawr.
Tâl mynediad arferol. Llwybr Calan Gaeaf:£1 y pen
02920 878 100. 

Dydd Sul 28 Hydref 

Taith Gerdded Spooktacular yn y Parc - Parc Bute

Ymunwch â Chalonnau Cymru am Daith Gerdded Spooktacular a the parti ym Mharc Bute, Caerdydd!

https://welshhearts.org/Events/Event/24/Spooktacular-Walk-in-the-Park

Ghostly Knights - Castell Caerdydd (28 - 31 Hydref)

Yn dilyn ei ymddangosiad yng Nghastell Caerdydd y llynedd, mae'r Marchog Du yn dychwelyd. Ymunwch â ni er mwyn cynorthwyo ein marchogion dewr i herio'r marchog dieflig.

https://www.castell-caerdydd.com/digwyddiadau/2018/10/28/cywydd-yr-ysbryd/?force=2
02920 878 100

Sinema Calan Gaeaf yng Nghastell Caerdydd (29 Hydref - 3 Tachwedd)

Unwaith eto, bydd awyrgylch ganol oesol is-grofft Castell Caerdydd yn gartref i'n sinema Danddaearol boblogaidd.Ewch ihttps://www.castell-caerdydd.com/?force=2am fanylion am ffilmiau ac i archebu tocynnau.

Dydd Llun 29 Hydref

Gweithdy Syrcas - Hyb STAR

Ymunwch â gweithdy syrcas No Fit State ar gyfer plant 5+

12pm - 2pm. https://www.better.org.uk/leisure-centre/cardiff/star

Bwystfilod Bach (29 - 30 Hydref)

Dychweliad ein sesiynau anifeilaidd ar gyfer Calan Gaeaf.Bydd y sesiwn hon sy'n awr o hyd yn galluogi ymwelwyr i ddod yn agos at amrywiaeth o drychfilod dychrynllyd o gynrhon a brogaod i fadfallod a nadroedd.

Mae'n angenrheidiol i archebu'ch lle. Ewch ihttps://www.castell-caerdydd.com/?force=2i archebu tocynnau

02920 878 100

Dod wyneb yn wyneb â Phryfed Cop (29 - 30 Hydref)

Pam fod pobl ofn pryfed cop?Ymunwch â ni er mwyn canfod rhagor am y creaduriaid hynod hyn a chewch gyfle i brofi'ch dewrder a phrofi sut deimlad yw hi i ddal tarantula.Plant - cewch weld os yw'r oedolion mor ddewr â chi a'u bod yn gallu rheoli eu hofnau!

Ar gyfer plant sy'n hŷn na 6 oed.Dim ond hyn a hyn o leoedd sydd ar gael ac mae archebu o flaen llaw yn angenrheidiol.Ewch iwww.cardiffcastle.comi archebu tocynnau.

02920 878 100

Dydd Mawrth 30 Hydref

Amgueddfa Stori Caerdydd

Mae cynulleidfaoedd ifanc yn cael eu hudo drwy'r drysau gan sesiwn dweud stori ar y thema môr ladron yn Den Dewi yn Oriel Labordy'r Ddinas yr amgueddfa.Bydd y cwmni celfyddydol dwyieithog, Dan yr Haul / Under the Sun yn tanio dychymyg yr ifanc â cherddoriaeth a straeon a hynny gan ddefnyddio offer a straeon ar y thema môr ladron.   

https://cardiffmuseum.com/events/

Dydd Mercher 31 Hydref 2018

Cerfio Pwmpen - Parc Bute
Cerfiwch bwmpen er budd Canolfan Therapi Plant Bopath Cymru.Ystafelloedd Te Pettigrew, o dan y gazebo awyr agored.10 - 12. 
http://bute-park.com/tribe_events/cerfio-pwmpen-pumpkin-carving/

Dydd Iau 1Tachwedd 2018

Brigau, brigau a mwy o frigau.
Sesiynau gweithgareddau yn rhad ac am ddim ar gyfer teuluoedd - Gwrandewch ar straeon, mwynhewch gemau a gweithgareddau yn y parc, cyfranogwch mewn gweithgareddau celf a chrefft.     Peidiwch ag anghofio dod â'ch welis!
https://www.eventbrite.co.uk/e/ffyn-ffyn-a-mwy-o-ffyn-sticks-sticks-and-more-sticks-tickets-51136659124

Gweithdy Syrcas - Hyb Grangetown
Gweithdy Sgiliau Syrcas sy'n rhad ac am ddim gyda No Fit State ar gyfer plant 5+ 12pm - 2pm.https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Llyfrgelloedd-ac-archifau/Dod-o-hyd-i-lyfrgell/Pages/Llyfrgell-Grangetown.aspx

Dydd Sadwrn 3 Tachwedd 2018

Sparks in the Park 2018!Sbarcs yn y Parc 2018!
Mae'r digwyddiad hwn eleni wedicael ei drefnu ganFord Gron Caerdydd ac unwaith yn rhagor bydd rhaid cael TOCYNNAU ac ni chaniateir mynediad ar y noson.
Felly, sicrhewch nad ydych chi a'r teulu'n cael eich siomi. Bydd y gatiau ar agor am 4.30pm, Ddydd Sadwrn 3 Tachwedd a bydd tân gwyllt i'r plant am 5.45pm a'r prif dân gwyllt o 7.00pm.
Bydd yr holl elw o Sbarcs yn y Parc yn cael eu cyfrannu at elusennau ac achosion da yn y gymuned leol a chefnogir y digwyddiad gan Heart.
 

http://parc-bute.com/tribe_events/sparks-park-2018/