Mae Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Blant a Theuluoedd, y Cynghorydd Graham Hinchey, yn ychwanegu ei gefnogaeth i'r Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol.
Mewn datganiad, dywedodd y Cynghorydd Hinchey: "Mae'n ffaith drist ond gwir fod mwy a mwy o blant yn aros i gael eu mabwysiadu yng Nghymru.
"Fel Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Plant, dwi wedi cwrdd â llawer o bobl ifanc mewn gofal a fyddai wrth eu bodd o gael teulu diogel. Mae pob plentyn yn haeddu'r hawl i fod yn rhan o deulu cariadus a gofalgar.
"Dwi'n siŵr bod llawer o bobl yng Nghaerdydd a'r cyffiniau yn ystyried mabwysiadu a gwneud gwahaniaeth hirdymor i blentyn sydd heb gael yr hyn y mae'r rhan fwyaf o blant yn ei gymryd yn ganiataol.
"Mae llawer o gymorth a chyngor ar gael. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth i benderfynu ai chi yw'r person i wneud gwahaniaeth go iawn i blentyn sy'n aros i gael ei fabwysiadu, cysylltwch â ni."
Yng Nghymru, mae mwy na dwywaith cymaint o blant yn aros am deuluoedd nag sydd o fabwysiadwyr.
Gallwch ddatgan diddordeb gyda'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol drwy ffonio 0800 023 4064 neu fynd i www.adoptcymru.com