Back
CAERDYDD AR FLAEN Y GAD YN ERBYN TRAIS DOMESTIG

Heddiw, cerddodd mwy nag erioed o ddynion filltir mewn sgidiau merched i ddangos eu cefnogaeth i'r Rhuban Gwyn, yr ymgyrch i roi stop ar drais yn erbyn menywod,cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Bellach yn ei bumed flwyddyn, denodd'Cerdded Milltir yn Ei Sgidiau Hi'mwy na 100 o gyfranogwyr.Gan ddechrau yng Nghastell Caerdydd, dilynodd y daith lwybr milltir o hyd o gwmpas canol y ddinas, gan orffen yn ôl yn y Castell.Gwnaeth aelodau o'r cyhoedd a gweithwyr gwrywaidd o sefydliadau fel Heddlu De Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, ySwyddfa Ystadegau Gwladol a Wales & West Housing gymryd rhan.

Mae'r project partneriaeth rhwngCyngor Caerdydd, Cymdeithas Tai Cadwyn a Chyngor Bro Morgannwg wedi tyfu o gynnwys 14 dyn yn2014 ac, am y tro cyntaf eleni, cymerodd pobl ifanc o Ysgol Uwchradd Llanisien, Ysgol Uwchradd Teilo Sant a Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd ran ynddo.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles, y Cynghorydd Susan Elsmore:"Cerdded Milltir yn Ei Sgidiau Hi'yw un o ddigwyddiadau allweddol Caerdydd i hyrwyddo ymrwymiad y ddinas i Ymgyrch y Rhuban Gwyn, ac mae'n arddangos gwaith partneriaeth rhagorol i godi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod, herio agweddau a chynnwys dynion mewn trafodaethau ynghylch y materion hyn.

"Eleni denodd y daith bobl ifanc i gymryd rhan, ac mae hwn yn gam gwych yn y cyfeiriad cywir.Mae'n dangos bod trafodaethau'n cael eu cynnal gyda phobl ifanc ar y pynciau pwysig hyn a'u bod yn dewis dangos na fyddant yn derbyn trais yn erbyn menywod ar unrhyw ffurf, gan hefyd hyrwyddo'r Rhuban Gwyn yn eu hysgolion a'u cymunedau."

Gwnaeth yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth a Phencampwr Cam-drin Domestig Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Caro Wild, gymryd rhan yn y daith gerdded.Ychwanegodd:"Mae Caerdydd yn Ddinas Rhuban Gwyn ac mae'r digwyddiad heddiw yn dangos pwysigrwydd y mudiad byd-eang hwn. Mae dynion a bechgyn yn gweithio i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched, gan hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol a fersiwn newydd o wrywdod.

"Mae pawb a gymerodd ran wedi dangos eu hymrwymiad i weithio tuag at newid diwylliannol a stopio ymddygiad annerbyniol yn y gweithle a'r tu hwnt.Rydym wedi dangos bod Caerdydd yn ddinas sy'n herio agweddau ac sydd ddim yn derbyn trais a chamdriniaeth."

Dywedodd Chris O'Meara, Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Cadwyn:"Mae taclo cam-drin domestig bob amser wedi bod yn flaenoriaeth yn Cadwyn ac yn 2014 daethom y gymdeithas dai gyntaf yng Nghymru i roi ein holl staff drwy hyfforddiant cam-drin domestig.Hon oedd y flwyddyn pan gynhaliom Cerdded Milltir yn Ei Sgidiau Hi am y tro cyntaf hefyd, gyda 14 dyn o Cadwyn yn gwisgo pâr o sgidiau merched ac yn cerdded milltir i lawr Heol Casnewydd i godi ymwybyddiaeth o Ymgyrch y Rhuban Gwyn. Mae'r digwyddiad wedi tyfu bob blwyddyn a dwi mor falch o'r gefnogaeth y mae wedi'i gael gan bobl a sefydliadau Caerdydd a'r Fro. 

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Hamdden, y Cynghorydd Gordon Kemp:"Mae Cyngor y Fro yn falch o fod yn bartner i'r digwyddiad blynyddol ‘Cerdded Milltir yn Ei Sgidiau Hi' yng Nghaerdydd.

"Mae Ymgyrch y Rhuban Gwyn yn achos gwerth chwil, sy'n galw ar ddynion i wneud safiad yn erbyn pob ffurf ar rywiaeth a trais ar sail rhywedd."

Ymunwch â'r sgwrs #RhubanGwynCaerdyddarFro

Bob blwyddyn yn y DU, mae mwy na miliwn o fenywod yn dioddef o gam-drin domestig a dros 360,000 yn dioddef o ymosodiad rhywiol. Er bod cam-drin menywod yn anghymesur o uchel, gall trais a chamdriniaeth effeithio ar bawb.

Am fwy o wybodaeth am Ymgyrch y Rhuban Gwyn neu er mwyn cofrestru fel llysgennad ewch iwww.whiteribbon.org.uk

Os ydych chi neu rhywun y gwyddoch amdano/amdani yn dioddef o drais domestig gallwch geisio cymorth a chefnogaeth gan y llinell gymorth Byw Heb Ofn: 0808 10 800 (llinell gymorth gyfrinachol 24 awr am ddim) www.livefearfree.gov.wales