Back
‘Dewch â’r Eisteddfod i Gaerdydd bob pum mlynedd’

Galwyd ar yr Eisteddfod Genedlaethol i ddod i’r brifddinas unwaith bob pum mlynedd.

 

Mae arweinydd Cyngor Caerdydd yn annog y trefnwyr i wneud y ddinas yn lleoliad rheolaidd i’r Eisteddfod yn dilyn wythnos ‘hynod’ ym Mae Caerdydd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Thomas: “Bu hon yn Eisteddfod hynod yng Nghaerdydd, hoffwn i ddweud ar gofnod fy mod yn llawn diolch ac edmygedd at dîm yr Eisteddfod, gyda chymorth swyddogion y Cyngor a helpodd i gynnal y digwyddiad. Yn syml, ni fyddai wedi digwydd heb eu gwaith caled a’u hymroddiad. 

 

"Yn wir i chi, mae’n debyg mai hon ydy’r Eisteddfod orau rwy’n cofio i mi fynd iddi erioed, ond mae’n bosib fy mod i’n dangos tuedd cofiwch!
 

“Yr hyn sy’n sicr yn wir ydy bod Eisteddfod eleni wedi croesawu cynulleidfa newydd ac atynnu torf amrywiol iawn.

 

“Rwy’n credu ei bod yn addas nawr i ni gymryd y cyfle i drafod y posibilrwydd o ddod â’r Eisteddfod i Gaerdydd yn fwy rheolaidd, bob rhyw bum mlynedd er enghraifft.

 

“Mae eleni wedi rhoi man cychwyn i ni ddatblygu ohono, ac rwy’n awyddus i sicrhau ein bod ni’n gwneud hynny, gan weithio â’n partneriaid yn yr Eisteddfod."

 

Dychwelodd yr Eisteddfod Genedlaethol i Gaerdydd eleni, ddegawd wedi’r tro diwethaf a chroesawodd dorfeydd yn ei safle ym Mae Caerdydd rhwng 3 a 11 Awst.

 

Roedd mynediad i’r Maes am ddim ac roedd y digwyddiadau a’r cystadlu mewn amryw o leoliadau amlwg y Bae yn hytrach nag ym mhabell y Pafiliwn ac mewn cae fel yr arfer; cafodd ymwelwyr fwynhau’r digwyddiadau lu bob dydd.

 

Ychwanegodd y Cyng. Thomas: “Bu i’r ffaith nad oedd ffiniau’n amgáu Eisteddfod eleni helpu i greu gŵyl agored, gynhwysol a chroesawgar i bawb, yn debyg i Gaerdydd ei hun. Roedd yn wych bod yn rhan ohoni ac rwy’n gobeithio y gallwn fynd ymlaen i adeiladu ar y digwyddiad rhagorol hwn.”