Back
Tywydd eithafol yn dod â 100 mlynedd o aros i ben wrth i goeden gampus flodeuo ym Mharc y Rhath

Mae coeden Tsieineaidd brin wedi blodeuo ym Mharc y Rhath am y tro cyntaf ers iddi gael ei phlannu dros 100 o flynyddoedd yn ôl.

Credir bod y clystyrau mawr o flodau hufennog-wen peraroglus yn ganlyniad i aeaf oer, ac yna'r tywydd poeth sydd wedi ysgubo'r DU yn ddiweddar.

Cafodd y rhywogaeth Emmenopterys henryi ei chyflwyno i Ewrop ym 1907 gan y botanegydd Ernest Wilson ond ni ddigwyddodd y blodeuo a gofnodwyd gyntaf tan 1971 yn yr Eidal. 

Yn y DU mae'r math hwn o goeden wedi blodeuo dim ond ar bum achlysur, gyda'r blodeuo diwethaf cyn yr haf hwn yng Nghaergrawnt yn 2012. 

Credir bod y goeden ym Mharc y Rhath wedi'i phlannu ar ddechrau'r 20fedganrif ac mae wedi tyfu i fod yn goeden gampus - sef y fwyaf neu'r gorau o'i fath yn y DU.

Dywedodd y Ceidwad Parc Cymunedol, Gareth Stamp: "Mae hyn wir yn rhywbeth arbennig i'w weld, mae'n rhaid fy mod i wedi cerdded heibio'r goeden hon filiwn o weithiau ond doeddwn i byth yn disgwyl ei gweld yn blodeuo - a phwy a ŵyr, mae'n digwydd mor anaml, efallai na fyddaf byth yn gweld hynny eto."

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae Parc y Rhath yn un o ddeuddeg o barciau a mannau gwyrdd safonol y Faner Werdd yng Nghaerdydd a'r llynedd, pleidleisiodd y cyhoedd mai'r parc gorau yng Nghymru ydyw - mae hwn yn rheswm gwych arall dros ymweld â'r parc dros yr wythnosau nesaf."

Mae'r lleoliadau ar gyfer holl goed campus Parc y Rhath, gan gynnwys yr Emmenopterys henryi, wedi'u marcio â physt a phlaciau.

I ddod o hyd i'r Emmenopterys henryi:

  1. Cychwynnwch o Gonservatoire Parc y Rhath
  2. Trowch i'r dde allan o'r brif fynedfa a dilynwch y llwybr.
  3. Croeswch yn syth dros ddwy 'gyffordd' ar y llwybr.

Mae'r Emmenopterys henryi ar yr ochr chwith ym mhen pellaf y bloc hwn o blannu.