Mae Cyngor Caerdydd wedi lansio ei arolwg blynyddol sy'n rhoi'r cyfle i drigolion ddweud eu dweud ar wasanaethau cyhoeddus.
Mae Holi Caerdydd 2018 yn ceisio barn pobl ar bynciau sy'n cynnwys tai, yr economi, cyflogaeth, teithio cynaliadwy, gwirfoddoli, diogelwch cymunedol a mwy i helpu'r cyngor i ddeall eu profiad o Gaerdydd a gwasanaethau.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd:"Mae Holi Caerdydd 2018 yn gyfle i bobl ddweud wrthym pa mor fodlon maen nhw gyda'u cymdogaeth, beth sy'n dda am wasanaethau cyhoeddus y ddinas, beth hoffent ei weld yn newid a sut maent yn credu y gallai gwasanaethau gael eu gwella.
"Mae adborth yr arolwg yn gipolwg pwysig ar farn y cyhoedd a bydd yn helpu i ddylanwadu ar newidiadau a gwelliannau i'r ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu cynnig yn y ddinas.
"Rhannodd mwy na 5,500 o bobl eu barn gyda ni y llynedd a rhoddodd hyn wybodaeth amhrisiadwy i ni am farn pobl ar wasanaethau'r ddinas a'u profiad gwirioneddol o'r gwasanaethau hynny.Rydym am annog cynifer o bobl â phosibl o bob rhan o'r ddinas i gymryd rhan eto eleni i helpu'r Cyngor a'i bartneriaid i ddeall beth sy'n bwysig i bobl a chymunedau lleol."
Mae arolwg Holi Caerdydd ar gael ynwww.caerdydd.gov.uk/holicaerdydd
Mae'n cymryd tua 20 munud i'w gwblhau ac mae ar agor tan 30 Medi. Os cymerwch ran cewch eich cynnwys mewn raffl â gwobrau, gan gynnwys£100 o dalebau siopa, arhosiad dros nos yng Ngwesty Sleeperz yng Nghanol y Ddinas neu fynediad am y dydd i Gastell Caerdydd.