Back
Dyfarnu statws Rhuban Gwyn i Gaerdydd wrth iddi ymrwymo i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod

Yr wythnos hon, mae Cyngor Caerdydd mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg wedi derbyn Dyfarniad Rhuban Gwyn Rhanbarthol am eu hymrwymiad i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod.

Cafwyd cyflwyniad gan Chris Green OBE, sylfaenydd ymgyrch Rhuban Gwyn DU, yn nigwyddiad Cenhadon Rhuban Gwyn Rhanbarthol cyntaf Caerdydd a'r Fro a dangosodd y gwaith sylweddol sy'n cael ei wneud gan staff ac asiantaethau partner i gael gwared ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig aThrais Rhywiol ar draws y rhanbarth.

Cafwyd y dyfarniad yn seiliedig ar gryfder ein Cynllun Gweithredu Rhuban Gwyn Rhanbarthol a ddatblygwyd ar y cyd â Chenhadon Rhuban Gwyn o bob rhan o'r rhanbarth.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles, y Cyng. Elsmore, "Wrth dderbyn y dyfarniad hwn, rydym yn dangos yn gyhoeddus ein hymrwymiad i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched - ymddygiad nad oes lle iddo yn ein dinas ni.

"Mae dynion a bechgyn yn rhan allweddol o herio'r agweddau a'r ystrydebau sy'n galluogi trais yn erbyn menywod a merched, a thrais yn gyffredinol, i ffynnu. Mae gennym Gynllun Rhuban Gwyn uchelgeisiol, ond rydym yn ymrwymedig i gyflawni'r camau gweithredu a geir ynddo. Gyda'n gilydd, mae gennym gyfle gwirioneddol i wneud Caerdydd yn lle diogel i bawb."

Dywedodd Cenhadwr Rhuban Gwyn Cyngor Caerdydd, y Cyng. Caro Wild:"Mae cyflawni'r dyfarniad hwn yn dangos ein hymrwymiad, nid yn unig fel awdurdod lleol, ond fel dinas, i wneud hi'n glir na fydd cam-drin domestig nac unrhyw fath arall o drais yn erbyn menywod a merched, yn cael eu goddef. Fel Cyngor, rydym yn annog dynion i siarad yn erbyn trais gan ddynion yn erbyn menywod a merched ac i herio'r ystrydebau negyddol o ran rhyw sy'n ategu camdriniaeth.

"Mae cyfres o ddigwyddiadau wedi'u cynllunio yn arwain at Ddiwrnod Rhuban Gwyn ar 25 Tachwedd ac rwy'n annog pobl o bob cefndir i gymryd rhan a chael eu cyfrif."

 

Yn rhan o'r Ymgyrch Rhuban Gwyn, bydd y digwyddiad blynyddol "Cerdded Milltir yn ei Hesgidiau Hi" yn cael ei gynnal ddydd Gwener 28 Medi. Y llynedd, daeth y nifer uchaf erioed o ddynion i gerdded milltir, gan wisgo esgidiau menywod, o Gastell Caerdydd drwy ganol y ddinas yn rhan o brosiect partneriaeth rhwng y Cyngor, Cymdeithas Tai Cadwyn a Chyngor Bro Morgannwg.Nod y digwyddiad hwn yw codi ymwybyddiaeth o Rhuban Gwyn ac ysgogi trafodaeth. I gofrestru eich diddordeb yn nigwyddiad eleni, ewch i www.walkinhershoes.wales

Ymunwch â'r sgwrs #WhiteRibbonCardiffVale