Back
Bwlch o ‘£91 miliwn’ yng nghyllideb y Cyngor


Mae bwlch a ragwelir o £91 miliwn yng nghyllideb Cyngor Caerdydd yn golygu bod yr awdurdod yn wynebu dyfodol ‘ansicr a heriol'. 

 

Bydd y bwlch o £91 miliwn yn y gyllideb - sydd wedi'i greu drwy gyfuniad o leihad yng nghyllid y llywodraeth, mwy o alw am wasanaethau a chostau cynyddol - yn effeithio ar gyllid yr awdurdod dros dair blynedd o 2019.

 

Dywedodd y Cyng Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad: "Bob blwyddyn mae mantoli'r gyllideb yn dod yn anos gan fod cymaint o'r gyllideb eisoes wedi'i lleihau. Mae'r cyngor hwn wedi canfod gwerth £145 miliwn o arbedion dros y pum mlynedd diwethaf ac rydym yn bwriadu gwneud £14 miliwn o arbedion eleni (2018/19). Does fawr o amheuaeth bod y rhagfynegiadau newydd hyn yn ogystal â'r hyn a gyflawnwyd gennym eisoes, yn golygu bod y cyngor yn wynebu dyfodol ansicr a heriol.

 

"Mae'n rhaid i ni ystyried yn fanwl yr holl wasanaethau yr ydym yn eu darparu. Efallai y bydd rhai yn diflannu. Rwy'n ymwybodol bod elfen o swnio fel tiwn gron - ond mae natur ddidrugaredd y toriadau yn ein cyllidebau yn ein gwthio'n nes at ymyl y dibyn."

 

Bydd Cabinet y Cyngor yn ystyried argymhellion yn Adroddiad Strategaeth Cyllideb 2019/20 mewn cyfarfod ddydd Iau 12 Gorffennaf.

 

Wedi eu cynnwys yn yr argymhellion mae:

  • Galluogi cyfarwyddiaethau i ddatblygu cynlluniau i fynd i'r afael â bwlch cyllideb o £34 miliwn yn 2019/20 a £91 miliwn dros y tair blynedd nesaf;
  • Gadael i'r cyngor geisio datganiadau o ddiddordeb mewndiswyddo gwirfoddol gan ei weithwyr;
  • Cychwyn proses ymgynghori gyda phreswylwyr.

 

C:\Users\c080012\Desktop\Budget_graphic_W2.jpg

 

Ychwanegodd y Cyng Weaver: "Bydd unrhyw un sydd wedi bod yn dilyn y newyddion yn gwybod bod cynghorau ar draws y DU yn ei chael hi'n anodd cael dau ben y llinyn ynghyd ac mae cyfraddau Treth Gyngor yn codi i wneud iawn am hynny. Mae'r un peth yn wir yng Nghaerdydd, ond, mae uchelgais gennym i'n prifddinas. Rydym eisiau i Gaerdydd fod yn lle gwych i fyw ynddo ac yn lle gwych i wneud busnes, ac mae ein hagenda Uchelgais Prifddinas yn nodi rhaglen yr ydym o'r farn fydd yn cyflawni'r pethau sydd wirioneddol o bwys i'n trigolion.

 

"Rydym dal am wella ysgolion, ffyrdd a seilwaith trafnidiaeth, yn ogystal â chynigion hamdden a thai'r ddinas ac rydym yn mynd i helpu i greu swyddi fel y gall pawb rannu'r buddion yr hoffem eu cyflwyno i'n dinas. Ond mae'r toriadau hyn yn golygu y bydd yn rhaid i'r Cyngor flaenoriaethu. Bydd yna wasanaethau yn syml na fyddwn yn gallu eu cynnig i drigolion yn y dyfodol. Nid yw'r arian ar gael mwyach a bydd unrhyw gynnydd i'r Dreth Gyngor dim ond yn ein helpu i dalu am y gwasanaethau statudol y mae rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i'w darparu. Mae cydbwyso ein huchelgeisiau ar gyfer y ddinas a'r angen i barhau i dorri cyllidebau yn weithred gain ac mae angen i drigolion ddeall hynny."

 

Mae adroddiad y Strategaeth Gyllideb yn nodi targed arbedion gwerth £66 miliwn dros y tair blynedd nesaf. Bydd angen dod o hyd i weddill yr arian, sef £25 miliwn, i lenwi'r bwlch o £91 miliwn drwy'r dulliau canlynol:

•Cynyddu'r Dreth Gyngor;

•Defnyddio cronfeydd wrth gefn;

•Gosod cap ar dwf cyllideb ysgolion (nid yw hyn yn doriad i gyllidebau ysgolion. Mae'r strategaeth yn rhoi rhagor o arian i ysgolion dros y tair blynedd nesaf yn wahanol i rannau eraill o'r Cyngor lle y mae cyllidebau'n cael eu torri.) 

 

Dywedodd y Cyng Weaver: "Byddwn yn parhau i foderneiddio'r ffordd yr ydym yn gweithio i sicrhau ein bod ni'n darparu'r gwasanaeth gorau posib i'n trethdalwyr, ond mae angen i ni hefyd fod yn agored â thrigolion. Nid yw cynni ariannol wedi gorffen. Os ydym am barhau i ddarparu'r gwasanaethau y mae trigolion y ddinas eu heisiau a pharhau i wneud Caerdydd yn lle gwell byth i fyw ynddo, mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd o godi'r arian i gyflawni hynny yn wyneb cyllidebau sy'n lleihau a galw cynyddol wrth i'n poblogaeth dyfu."

 

Cyfanswm cyllideb presennol y Cyngor yw £609 miliwn, ond mae 65% o hyn (£397 miliwn) yn cael ei wario ar hyn o bryd ar ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol. Mae'r ddau faes yn wynebu galw cynyddol wrth i boblogaeth y ddinas dyfu.

 

Ychwanegodd y Cyng Weaver: "Mae bob cynnydd o 1% yn y Dreth Gyngor yn codi tua £1.4 miliwn, ac rydym yn wynebu diffyg o £34 miliwn yn 2019/20 yn unig. Byddai cynnydd o bedwar neu bump y cant yn y Dreth Gyngor ond yn codi tua £6 miliwn sydd ymhell o lenwi'r bwlch. Bydd angen i ni ddod o hyd i arbedion mawr a chynhyrchu incwm mewn sawl ffordd wahanol er mwyn pennu'r gyllideb hon.

 

"Byddwn yn dechrau cyfnod o ymgynghori â thrigolion nawr ac rwy'n annog pobl i gymryd rhan. Mae angen i ni glywed eu barn ar y gwasanaethau sydd fwyaf gwerthfawr iddyn nhw.  Yn ystod yr haf, bydd trigolion yn gallu cymryd rhan yn yr arolwg Holi Caerdydd a bydd ymgynghoriad manylach yn yr hydref."

 

 

Mae Adroddiad Strategaeth Gyllideb 2019/20 ar gael yma:http://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=151&MId=3386&Ver=4