Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn ystyried cynlluniau i ddarparu gofal seibiant byr yn fewnol yng nghartref plant Tŷ Storrie.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd, y Cyng. Graham Hinchey,"Trwy ddarparu gofal ein hunain yn Nhŷ Storrie, yn hytrach na thrwy drefniant contract â thrydydd parti, bydd gennym yr hyblygrwydd i ddiwallu anghenion pwrpasol a newidiol y plant a'r bobl ifanc sy'n defnyddio'r gwasanaeth seibiant byr.
"Mae'r gwasanaeth llwyddiannus mawr ei barch rydyn ni'n ei ddarparu yng nghartref plant Crosslands yn dangos y gallwn ni wneud yr un peth yn Nhŷ Storrie, gan ddod â holl fanteision hynny, sef cydlynu gwasanaethau'n effeithiol, prosesau penderfynu wedi'u symleiddio a rheolaeth uniongyrchol.
"Byddai gan y staff fynediad llawn at ein cyfleoedd hyfforddi a datblygu, gan sicrhau bod sgiliau'n datblygu wrth i anghenion gofal y plant a'r bobl ifanc newid, a hefyd atgyfnerthu'r prosesau recriwtio a dethol."
Ar hyn o bryd caiff gofal yn y cartref plant ei ddarparu gan elusen Gweithredu Dros Blant.Rhoddwyd trefniad treigl ar waith i roi'r hyblygrwydd i ymateb i anghenion gofal newidiol y plant sy'n defnyddio'r cartref.
Mae'r awdurdod lleol wedi ysgrifennu at deuluoedd sy'n defnyddio gwasanaethau yn Nhŷ Storrie i'w hysbysu am y newidiadau sy'n cael eu hystyried.Ymgynghorwyd â'r staff a'r undebau llafur.Byddai'r staff sy'n gweithio yn y cartref ar hyn o bryd yn cael eu trosglwyddo i'r cyngor o dan Reoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth).
Bydd y Cabinet yn cwrdd ddydd Iau, 12 Gorffennaf i drafod yr adroddiad.Yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet, bydd mwy o ymgynghori â rhanddeiliaid cyn pennu'r amserlen i roi'r broses ar waith.
Gellir gweld copi o adroddiad y Cabinet ar-lein yn www.caerdydd.gov.uk/cyfarfodydd.