Back
Dyfeisio Direidi yn llyfrgelloedd Caerdydd yr haf hwn

 


Mae Her Ddarllen yr Haf yn ôl yn llyfrgelloedd a hybiau Caerdydd ac anogir darllenwyr ifanc ar draws y ddinas i ddyfeisio drygioni yn rhan o her eleni.

 

Thema'r her eleni, a drefnwyd gan The Reading Agency ac a fydd ar gael mewn llyfrgelloedd ar draws y wlad, yw Dyfeiswyr Drygioni, wedi'i ysbrydoli gan y ‘Beano', y comic plant poblogaidd iawn sy'n dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed.

 

 I gymryd rhan yn Dyfeiswyr Drygioni, mae angen i bob plentyn 4 i 11 oed gofrestru yn eu llyfrgell agosaf a darllen unrhyw chwe llyfr dros yr haf. Hefyd, byddant yn cael map lliwgar i gasglwyr o Beanotown i gadw cofnod o'u siwrnai ar Her Ddarllen yr Haf.

 

Bydd yr Her yn cael ei lansio'n swyddogol yng Nghaerdydd gyda pharti llawn hwyl ynHyb y Llyfrgell Ganolog Ddydd Sadwrn, 14 Gorffennaf, 2.30pm. Bydd y parti'n cynnwys llawer o weithgareddau llawn hwyl gan gynnwys celf a chrefft, amser stori, helfa drysor a llawer mwy.

 

Gall ymwelwyr ifanc gofrestru ar gyfer yr her yn y parti neu unrhyw gangen llyfrgell neu Hyb arall yn y ddinas.

 

Y llynedd, cofrestrodd dros 8,300 o blant yng Nghaerdydd ar gyfer y brif her a her y blynyddoedd cynnar i blant dan 4 oed ac eleni gobeithir y bydd mwy fyth yn cymryd rhan.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cyng. Lynda Thorne: "Rydym yn falch o fod yn rhan o Her Ddarllen yr Haf eto eleni. Bob blwyddyn, mae mwy a mwy o blant yng Nghaerdydd yn cofrestru i ddarllen chwe llyfr yn ystod gwyliau'r ysgol, pan y gall lefelau llythrennedd ostwng.

 

"Mae Her Ddarllen yr Haf yn helpu i gadw diddordeb plant drwy ddysgu mewn modd maent wirioneddol yn ei fwynhau. Rydym eisiau i fwy o blant gofrestru eto eleni pan fydd digonedd o weithgareddau llawn hwyl yn ein llyfrgelloedd a'n hybiau."

 

Wrth i'r plant fynd ati i ddarllen chwe llyfr, byddant yn ennill sticeri i'w hychwanegu at eu mapiau o Beanotown. Bydd pawb sy'n cwblhau'r her hefyd yn derbyn tystysgrif a medal.

 

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau Her Ddarllen yr Haf yn llyfrgelloedd a hybiau Caerdydd drwy'r haf, ewch iwww.caerdydd.gov.uk/llyfrgelloeddneu dilynwch ni ar Twitter @cdcdflibraries awww.facebook.com/SummerReadingChallengeCardiff