Back
Plant ysgol ifanc Caerdydd yn cael blas ar fyd o gyfleoedd

Mae rhai o enwau mwyaf meysydd busnes, celfyddydau a diwylliant yn dod i ysgolion yng Nghaerdydd dros y pythefnos nesaf i siarad â phlant ynghylch y cyfleoedd gyfra sydd ar gael yn y ddinas. 

Bellach yn ei bedwaredd flwyddyn, nod Open Your Eyes yw codi uchelgeisiau gyrfaol; yn cychwyn heddiw, bydd 38 busnes a sefydliad o Gaerdydd a'r ddinas-ranbarth ehangach yn ymweld â 16 ysgol yn yr ardaloedd clwstwr ar gyfer Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd ac Ysgol Uwchradd Fitzalan. 

Gan ddefnyddio'r cysylltiadau a grëwyd trwy Addewid Caerdydd, bydd Open Your Eyes eleni'n cynnwys rhagor o fusnesau a sefydliadau yn ymweld â rhagor o ysgolion ac yn siarad â rhagor o blant a phobl ifanc nag erioed. 

Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry:"Mae Open Your Eyes yn chwarae rôl bwysig mewn helpu plant a phobl ifanc i gynnal eu brwdfrydedd dros ddysgu, gan sicrhau eu bod yn mynd ymlaen i gyflogaeth, addysg bellach neu hyfforddiant wedi gadael yr ysgol a manteisio'n llawn ar economi fodern, fyw a deinamig Caerdydd. 

"Trwy gyflwyno byd o gyfleoedd iddynt, gallwn helpu plant a phobl ifanc i ddechrau edrych ymlaen ac ystyried gyrfaoedd na fydden nhw'n eu hystyried fel arall.Wrth godi uchelgeisiau ar gyfer eu dyfodol, gallwn ni eu hannog i lwyddo mewn addysg, eu hysgogi i lwyddo a gwireddu'r uchelgeisiau.

"Mae'n wych gweld Open Your Eyes ar gael i gymaint o blant a phobl ifanc a bod hyd yn oed mwy o fusnesau a sefydliadau wedi ymuno i sôn am y cyfleoedd gyrfa gwych sydd ar gael yng Nghaerdydd a'r ddinas-ranbarth." 

Mae Ysgol Gynradd Millbank yng Nghaerau yn un o'r ysgolion sy'n rhan o Open Your Eyes eleni.Wrth egluro pam mae'n bwysig eu bod nhw'n cymryd rhan, dywedodd y Pennaeth, Mrs Karen Brown:"Rwy'n danbaid iawn dros roi'r cyfleoedd gorau bosibl i blant yn eu bywydau ac rwy' wrth fy modd bod busnesau a sefydliadau'n ymrwymo wrth ddangos bod cymaint o gyfleoedd o fewn cyrraedd iddyn nhw.Rwy' wedi dotio bod hyn yn rhywbeth y gallwn ni weithio arno fel clwstwr cyfan, yn cynnwys ein hysgol uwchradd newydd, Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd. 

"Rwy'n gobeithio bod y disgyblion yn deall yr ystod eang o lwybrau a chyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw wrth dyfu yng Nghaerdydd, ac y cân nhw eu hysbrydoli gan y siaradwyr gwadd o ran y sgiliau y maen nhw eisoes wrthi'n eu dysgu a sut y bydd y rhain o fudd iddyn nhw yn yr yrfa dan sylw neu unrhyw un arall. Rwy'n edrych ymlaen at glywed y cyflogwyr yn rhannu hanesion eu teithiau nhw yn eu gyrfaoedd ac yn egluro wrth y plant bod angen astudio, gweithio'n galed, dyfalbarhau, bod yn benderfynol a breuddwydio!" 

Mae Addewid Caerdydd yn nodi sut y bydd y Cyngor, ynghyd ag ystod eang o bartneriaid yn y sectorau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector yn cydweithio i sicrhau bod pen taith pob person ifanc yng Nghaerdydd yn gadarnhaol ar ôl yr ysgol, naill ai mewn cyflogaeth neu addysg bellach a hyfforddiant. 

Dyma'r 38 busnes a sefydliad sy'n cymryd rhan yn Open Your Eyes eleni:Admiral Law; BBC Wales; Better Caerdydd; Blake Morgan Law; Cymdeithas Dai Cadwyn; Gleision Caerdydd, Cyngor Trydydd Sector Caerdydd, Prifysgol Caerdydd; Celsa Steel; Digital Profile; FOR Cardiff; Hilton Caerdydd; CThEM; ISG Construction; ITV Wales; Kier Construction; Lovells; Mandy St John Property Developer; Microsoft; Millennium FX; Morgan Sindall; Theatr Genedlaethol Cymru; Network Rail; Orchard Media; Gwesty'r Park Plaza; Powell Dobson; PricewaterhouseCoopers; Radisson Blu Caerdydd; y Llu Awyr; Santander; Selco; Heddlu De Cymru; Specsavers; Prifysgol De Cymru; Ymddiriedolaeth Elusennol Ambiwlans Awyr Cymru; Canolfan Mileniwm Cymru; Opera Cenedlaethol Cymru; Undeb Rygbi Cymru. 

Dywedodd Alice Knapman, Rheolwr Adnoddau Dynol Gwestai Hilton:"Rwy'n teimlo'n gryf dros ysbrydoli pobl ifanc i ymuno â'r diwydiant lletygarwch a llwyddo mewn gyrfa wych.Yn y diwydiant lletygarwch, rydych chi'n cwrdd â phobl newydd bob dydd, yn meithrin cyfeillgarwch gwych ac yn gallu teithio a gweld y byd. 

"Dechreuais i weithio gyda Hilton trwy leoliad pythefnos yn ystod fy nghyfnod yn y coleg.Rwyf i wedi gweithio mewn 10 Gwesty Hilton ac mewn 8 mlynedd, rwyf i wedi dyrchafu i fod yn Rheolwr AD dros dri Gwesty Hilton."