Mae estyniad newydd Ysgol Gynradd Adamsdown yng Nghaerdydd wedi ei agor yn swyddogol heddiw.
Ymunodd Ysgrifennydd Addysg Cymru, Kirsty Williams, a Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd ac Aelod y Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry, â phlant yr ysgol i ddadorchuddio plac a thorri'r rhuban i agor yr adeilad newydd yn swyddogol.
Bu gweithwyr wrthi am 11 mis yn cwblhau'r project, a gostiodd £3.6 miliwn. Daeth y cyllid gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru drwy Fand A Rhaglen Addysg ac Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, rhaglen sy'n werth £164miliwn.
Dywedodd Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg:"Rwy'n hynod falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi'r buddsoddiad £3.6 miliwn hwn yn Ysgol Gynradd Adamsdown, gyda dros £2.8 miliwn dan ein Rhaglen Addysg ac Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain. Wrth edrych ar yr adeilad heddiw, mae'n amlwg bod hyn yn wariant gwerth chweil ac y bydd o fudd i ddysgwyr ac athrawon am flynyddoedd.
"Mae'r project hwn yn rhan o'r don gyntaf o Raglen Ysgolion y 21ain Ganrif ac Addysg Llywodraeth Cymru, a fydd yn ailadeiladu ac ailwampio 150 o ysgolion a cholegau ledled Cymru, gan gynrychioli'r buddsoddiad mwyaf yn ein hysgolion a'n colegau ers y 1960au."
Mae'r estyniad newydd, sy'n sefyll ar wahân i brif adeilad yr ysgol, wedi dyblu maint Ysgol Gynradd Adamsdown, sydd bellach yn ysgol dau ddosbarth derbyn, gyda lle i hyd at 420 o ddisgyblion rhwng oed dosbarth derbyn a blwyddyn 6, yn ogystal â phlant meithrin.
Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry:"Mae nifer ein disgyblion cynradd wedi cynyddu'n sylweddol yn yr ardal dros y blynyddoedd diwethaf, ac yn ogystal â darparu rhagor o leoedd, gyda Llywodraeth Cymru, bydd y project i ehangu Ysgol Gynradd Adamsdown, yn sicrhau y caiff plant gyfle i fanteisio ar amgylchedd dysgu sy'n addas i'r Unfed Ganrif ar Hugain.
"Drwy Fand A rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain ar gyfer Caerdydd, mae £164miliwn yn cael ei fuddsoddi, i ehangu ysgolion presennol ac adeiladu rhai newydd.Ar hyn o bryd, mae pump ysgol gynradd ac adeilad newydd sbon ar gyfer Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd yn cael eu codi.Heb sôn am Ysgol Uwchradd newydd y Dwyrain, ac ysgolion cynradd sydd newydd agor, megis Pontprennau.
"Rwyf wedi gweld, yn bersonol, y gwahaniaeth mawr y mae'r projectau band A hyn yn ei wneud i fywydau ein plant a'n pobl ifanc, gan gynnwys plant Ysgol Gynradd Adamdsown, ac mae mwy i ddod wrth i ni agosáu at gychwyn buddsoddiad Band B, gyda £284 miliwn arall yn cael ei fuddsoddi."
Dywedodd Pennaeth Ysgol Gynradd Adamsdown, Ms Emma Thomas:"Mae cwblhau'r project hwn yn gyffrous iawn i'n cymuned ysgol gyfan ac yn gyfle gwych i gynnig i blant Adamsdown amgylchedd dysgu fodern yn yr 21ain ganrif lle gallwn oll weithio tuag at weithredu'r cwricwlwm newydd.
"Mae ein gwelliant ers 2015 wedi bod yn sydyn - a gydnabyddir gan y ffaith ein bod wedi dringo o goch i felyn yn y categori ysgolion eleni - ac mae'r adeilad newydd hwn eisoes wedi ein galluogi i wella Ysgol Gynradd Adamsdown.
"Mae gennym ni nawr adeilad mawr gyda chyfleusterau arlwyo newydd, cae chwaraeon aml-ddefnydd, ffrâm ddringo, gerddi wedi'u tirlunio a chyfleusterau amgylcheddol.Mae'r adeilad newydd wedi ein galluogi i greu amgylchedd dysgu hapus a phwrpasol."
Mae'r estyniad yn 1,150 o fetrau sgwâr, ac yn cynnwys ystafelloedd dysgu a thoiledau ar gyfer yr ysgol isaf, ynghyd â neuadd a chegin newydd.
Mae hefyd chwe ystafell drafod, neu fannau tawel, ynddo.Bydd y rhain yn caniatáu i staff weithio gyda phlant mewn grwpiau llai o faint, y tu allan i'r ystafelloedd dosbarth.
Mae'r neuadd newydd yn lle gwych i blant ddod at ei gilydd ar gyfer gwasanaethau, perfformiadau neu gyngherddau.Mae o uchder dwbl, ac felly'n addas ar gyfer dysgu, chwaraeon a hamdden.
Mae'r ardal gymdeithasu ganolog yn ddigon llydan i allu ei defnyddio fel ardal ddysgu hyblyg, ac mae'n lle golau, braf diolch i'r ffenestri uchel.
Mae pob ystafell ddosbarth hefyd yn olau braf, gyda llu o ffenestri allanol, a ffenestri mewnol yn benthyg golau o'r ardal gymdeithasol ganolog.
Y tu allan, mae yna Ardal Gemau Amlddefnydd, man gwych ar gyfer gemau anffurfiol a gwersi pêl-droed, pêl-rwyd a phêl-fasged.
Fe'i hadeiladwyd gan Encon, a ddechreuodd ar y gwaith ym mis Hydref 2015, a'i gwblhau ym Medi 2016.