Back
Ysgol Gynradd Herbert Thompson yn codi arian ar gyfer ‘merch fach hyfryd, gyda phersonoliaeth hyfryd'

Mae tîm o 25 o aelodau staff o Ysgol Gynradd Herbert Thompson yn Nhrelái yn rhedeg yn Ras Fuddugoliaeth 5k Caerdydd, i helpu i godi arian ar gyfer disgybl ifanc sydd angen triniaeth feddygol hanfodol. 

Cafodd Crystal Smith sy'n 9 oed, merch ifanc ym Mlwyddyn 5, ddiagnosis o niwroblastoma ym mis Chwefror 2015, math o ganser sy'n ffurfio ym meinwe'r nerfau. 

Ar ôl triniaeth ddwys, dechreuodd y clefyd gilio ychydig erbyn mis Ebrill 2017. Ond dangosodd sgan MRI diweddar lympiau yn ei hiau a'i fertebrau, a haint ym mêr ei hesgyrn.

Bydd Crystal yn parhau i gael cemotherapi, ac yna triniaeth yn Llundain a Southampton. Pan fydd ysgafnhad yn ei salwch, mae’r teulu’n gobeithio teithio i America i gael triniaeth frechlyn sydd wedi cael canlyniadau da mewn profion clinigol, gan atal y tyfiannau rhag dychwelyd. Byddai’n costio tua £150,000.  

Mae ei mam a'i thad, Sabrina Amor a Nicholas Smith yn codi arian i gael triniaeth arbenigol, a phenderfynodd Ysgol Gynradd Herbert Thompson gymryd rhan hefyd wedi i athrawes Crystal, Siobhan Richards, ymweld â'i chartref a chlywed am yr hyn oedd ei angen.

Ers hynny, mae'r ysgol a'r gymuned wedi bod yn brysur yn helpu i godi arian mewn sawl ffordd, a'r ras 5k noddedig dydd Sul yw'r diweddaraf mewn cyfres o ddigwyddiadau. 

Mae'r 25 aelod staff sy'n rhedeg y ras wedi codi ychydig dros £700 hyd yma, drwy eu hapêl ‘Coins for Crystal' -www.justgiving.com/crowdfunding/coins-for-crystal- ac maen nhw'n gofyn i aelodau'r cyhoedd gyfrannu faint gallen nhw i helpu. 

Dywedodd Sabrina, mam Crystal:"Rydyn ni'n gwerthfawrogi hyn yn fawr - mae'r gefnogaeth y tro hwn a'r tro diwethaf wedi bod yn anhygoel.Doeddwn i ddim yn disgwyl y gefnogaeth gan bobl ddiarth, ond mae wedi bod yn wych. 

"Mae'n dwlu ar y ffaith bod aelodau staff yn rhedeg y ras ddydd Sul ac mae hi'n awyddus i gefnogi'r digwyddiad.Mae cefnogaeth pawb - gan gynnwys aelodau'r gymuned - wedi bod yn wych, a hoffwn ddiolch i bawb am yr hyn y maen nhw'n ei wneud i Crystal, allwn ni ddim gwneud hyn hebddyn nhw." 

Bu i bob grŵp blwyddyn yn yr ysgol gynnal digwyddiadau codi arian gwahanol, gan gynnwys: diwrnodau gwallt gwyllt; digwyddiadau chwaraeon; a gwisg ffansi.Gyda'i gilydd, mae'r plant wedi llwyddo i godi £1980 hyd yma, ac rydyn ni'n dal i dderbyn cyfraniadau. 

Trefnodd Siobhan Richards gasgliad dillad, wnaeth godi £124. Gwnaeth ei chydweithiwr, Emma Harris, gyfrannu ei gwallt at y Princess Trust gan godi £770.Mae glanhawraig yr ysgol, Amy Fowler, yn cynnal tawelwch noddedig ar hyn o bryd. 

Mae'r gymuned ehangach wedi helpu hefyd, gan gynnwys trefnu raffl a chynnal noson codi arian. 

Dywedodd PennaethYsgol Gynradd Herbert Thompson, Mrs Sheena Marsh:"Mae Crystal yn ferch hyfryd, gyda phersonoliaeth hyfryd.Mae'n boblogaidd iawn ymysg ei theulu, ei ffrindiau, ei hathrawon a'r gymuned.Mae ei dewrder a'i chryfder yn ysbrydoledig, ac rydym yn gefnogol iawn o Crystal a'i theulu. 

"Mewn cyfnodau fel hyn mae'r gymuned wirioneddol yn dod at ei gilydd, ac mae modd gweld caredigrwydd a haelioni pawb.Rydym yn falch iawn o'r gefnogaeth yr ydym yn ei derbyn gan y gymuned a hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi Crystal a'i theulu." 

<0}"Roedden ni eisiau gwneud rhywbeth fel tîm o staff i helpu Crystal, felly roedd digwyddiad lleol yn berffaith.Mae 5 cilomedr yn grêt i'r rhedwyr newydd a'r rhedwyr profiadol sydd gennym yn yr ysgol.Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr i orffen y ras fel tîm, yn gwybod ein bod ni'n helpu un o'n disgyblion arbennig iawn."