Back
Golau gwyrdd i gynlluniau i gynyddu darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol

Mae Cabinet y Cyngor wedi cymeradwyo cynlluniau i ehangu ac addasu darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol ar ôl i ymgynghoriad cyhoeddus ddatgelu cefnogaeth helaeth i'r cynnig. 

Er mwyn ateb y galw cynyddol disgwyliedig, bydd y cyngor bellach yn bwrw ymlaen ag amrywiaeth o gynlluniau - yn ogystal â'r  cynigion i ddatblygu darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol fel rhan o gynlluniau blaenoriaeth y cyngor o dan  Band B ei raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. 

Yn seiliedig ar ganlyniadau'r ymgynghoriad, cafodd y saith cynllun canlynol eu cyflwyno i'r Cabinet, yn cynnwys cymysgedd o ysgolion arbennig a chanolfannau adnoddau arbenigol, wedi'u lleoli mewn ysgolion prif ffrwd: 

Ysgol Arbennig Tŷ Gwyn

  • Cynyddu nifer y lleoedd i 198
  • Addasu adeiladau cyn-Ganolfan Ieuenctid Trelái i ddarparu tair ystafell ddosbarth ychwanegol 

Ysgol Greenhill

  • Codi oedran gadael y disgyblion o 16 oed i 19 oed, gan ddod yn ysgol ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 a 19 oed
  • Cynyddu lle yn yr ysgol i gynnwys 64 o ddisgyblion 

Ysgol Arbennig Meadowbank

  • Addasu dynodiad yr ysgol i:‘anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebuacanawsterau dysgu cymhleth' - ar hyn o bryd mae'r ysgol wedi'i dynodi ar gyfer ‘namau iaith penodol'. 

Ysgol Gynradd Allensbank

  • Agor dosbarth ymyrraeth gynnar â lle i wyth ym mis Medi 2019, ar gyfer plant ag anghenion lleferydd ac iaith, a mynd ati fesul cam i gau'r ganolfan adnoddau arbenigol yn yr ysgol erbyn mis Gorffennaf 2020 fan bellaf 

Ysgol yr Eglwys yng Nghymru y Forwyn Fair

  • Creu canolfan adnoddau arbenigol â lle i ugain o blant 

Ysgol Pwll Coch

  • Agor canolfan adnoddau arbenigol, i ddarparu hyd at 10 lle i gychwyn, ond gyda'r dewis i gynyddu hyn i 20 o leoedd yn y dyfodol 

Ysgol Glantaf

  • Cynyddu nifer y lleoedd yn ei chanolfan adnoddau arbenigol i 30
  • Ehangu a gwella llety presennol y ganolfan 

Wrth roi sylwadau ar y cynigion, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry:Mae twf sylweddol wedi bod yn nifer y bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yng Nghaerdydd ers 2012, gan fod twf wedi bod ym mhoblogaeth y ddinas.  Disgwylir i'r duedd hon barhau dros y pum i ddeng mlynedd nesaf, a dyna pam mae mor bwysig i ni gyflwyno'r cynlluniau hyn, ac yna gweithredu darpariaeth ychwanegol dan Fand B rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. 

"Ein nod yw annog cynifer o blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol â phosibl i fynd i'w hysgol leol, ac mae mwy na 90 y cant yn defnyddio addysg prif ffrwd. Ar gyfer y rhai hynny ag anghenion mwy cymhleth, rydym wedi ariannu 103 o leoedd ysgol arbennig a chanolfan adnoddau arbenigol yng Nghaerdydd dros y pum mlynedd diwethaf. 

"Drwy'r cynlluniau arfaethedig hyn, a thrwy gam nesaf ein rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, byddwn yn ehangu llawer ar y ddarpariaeth hon." 

Roedd yr ymgynghoriad hefyd yn cynnwys cynigion i ehangu Ysgol Arbennig yr Hollies. Fodd bynnag, oherwydd pryderon a godwyd drwy'r ymgynghoriad, ni chaiff y cynllun hwn ei gynnwys ar restr y cynlluniau a argymhellir i'r Cabinet. Caiff cynlluniau pellach eu datblygu i ddiwallu'r angen hwn. 

Mae copi o adroddiad y Cabinet, gan gynnwys manylion llawn o'r cynigion ac arfarniad o safbwyntiau a gyflwynwyd drwy'r ymgynghoriad, ar gael i'w weld ar-lein yn  www.caerdydd.gov.uk/cyfarfodydd