Mae dyn o Gaerdydd wedi cael rhyddhad amodol am 18 mis ac wedi ei orchymyn i dalu iawndal o £100, tâl ychwanegol dioddefwr o £20 a chostau o £85 yn Llys Ynadod Caerdydd ddoe, wedi pledio'n euog i Ddifrod Troseddol ar ôl iddo symud clamp olwyn o'i gar yn anghyfreithlon.
Gwelwyd Mr Christopher Moore, 22 oed o Mayfield Avenue, Treganna, yn torri'r clamp olwyn o'i gar pan oedd wedi'i barcio y tu allan i'w gartref.
Darparodd Cyngor Caerdydd fideo yn dangos y drosedd yn cael ei chyflawni, a arweiniodd at Heddlu De Cymru yn siarsio Mr Moore gyda Difrod Troseddol ar 24 Mawrth 2018.
Gan roi sylwadau ar yr erlyniad llwyddiannus, dywedodd y Cyng Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad: "Rydym yn defnyddio clampiau fel y dewis olaf ac am reswm da. Mae'n rhaid i unrhyw un sy'n methu â thalu dirwy parcio, neu sy'n cyflawni trosedd traffig sy'n symud - megis gyrru mewn lôn fysus neu stopio ar gyffordd sgwâr melyn - wybod bod canlyniadau i'w gweithrediadau. Fel arall nid oes gennym fesur ataliol yn erbyn gyrwyr problemus sy'n achosi perygl ac sy'n niwsans i ddefnyddwyr ffordd eraill.
"Mae'n gwbl annerbyniol i yrwyr gymryd y gyfraith yn eu dwylo eu hunain trwy symud clampiau olwyn. Rydym wedi delio â 16 achos yn cynnwys clampiau'n cael eu symud yn anghyfreithlon yn y 12 mis diwethaf, felly rwy'n croesawu'r erlyniad heddiw sy'n anfon neges glir y caiff pobl a welir yn difrodi clampiau olwyn eu cosbi.
"Ceir cyfarwyddiadau ar y clampiau sy'n nodi sut mae gyrwyr yn talu i'w symud. Os byddant am wneud cwyn, gallant wneud felly trwy'r sianeli iawn yn y Cyngor. Ni ddylai'r clampiau gael eu symud gan y gyrrwr ar unrhyw gyfrif."