Back
Gofeb Ceffyl Rhyfel

Gofeb Ceffyl Rhyfel

 

Mae'r Cynghorydd Bob Derbyshire, Arglwydd Faer Caerdydd, wedi derbyn pedol efydd ar ran pobl Cymru sy'n dynodi'r gwasanaeth a'r aberth a wnaed gan filoedd o geffylau Cymreig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

 

Mae'r arwydd symbolaidd hwn yn rhan o'r Gofeb Ceffyl Rhyfel, y gofeb genedlaethol gyntaf a godwyd yn arbennig ar gyfer miliynau o geffylau, mulod ac asynnod y DU, y Cynghreiriaid a'r Gymanwlad a'u collwyd yn ystod y Rhyfel Mawr.Mae'n talu teyrnged i fawredd, dewrder, ffyddlondeb di-ildio a chyfraniad enfawr yr anifeiliaid hyn wrth ennill y rhyddid democrataidd rydym i gyd yn ei fwynhau heddiw.

 

Er y bydd y gofeb yn cael ei chodi yn Ascot, Berkshire, dywedodd Alan Carr MBE, Cyfarwyddwr y Gofeb, bod y cysylltiad rhwng pedair gwlad y DU yn bwysig dros ben i lwyddiant y project.Eglurodd:"Rydym yn awyddus i gydnabod y cyfraniad anferthol a wnaed, yn arbennig gan y Ceffyl Cymreig Yeomanry.Mae cofnodion yn dangos bod pobl yn ogystal â cheffylau wedi gwasanaethu ag anrhydedd drwy gydol yr ymgyrch pedair blynedd.

 

"Cerfiwyd ein ceffyl mawr efydd heb y pedolau, ac rydym yn falch iawn bod y Cynghorydd Derbyshire wedi cytuno i dderbyn un ohonynt ar ran pobl Cymru. Bydd y tair pedol arall yn cael eu cyflwyno i Gaeredin, Belffast a Llundain dros yr wythnosau i ddod."

 

Dywedodd y Cynghorydd Bob Derbyshire,Gwir AnrhydeddusArglwydd Faer Caerdydd:"Mae'n fraint cael derbyn pedol efydd y Ceffyl Rhyfel ar ran pobl Cymru.Bydd y bedol goffa yn deyrnged ddilys i'r ceffylau Cymreig a wasanaethodd yn y Rhyfel Mawr a bydd yn atgof parhaol i bobl Cymru o sut wnaeth gwasanaeth ac aberth ceffylau sicrhau ein rhyddid."