Mewn llai na 60 diwrnod bydd cyfres hwylio amlycaf y byd yn cyrraedd Caerdydd, ac am y tro cyntaf erioed yn hanes y ras, bydd yn aros yn y brifddinas am 15 diwrnod.
Gyda llygredd plastig morol yn ganolbwynt i Ras Fôr Volvo, bydd Caerdydd yn arddangos sawl project arloesol fydd yn dangos ein hymrwymiad i amlygu gwaredu gwastraff yn anghywir yn ein moroedd.
Mae Awdurdod Harbwr Caerdydd (AHC) yn casglu oddeutu 430 tunnell o sbwriel a gweddillion naturiol o ddyfroedd Bae Caerdydd bob blwyddyn, gan gynnwys plastig.Mae rhai o'r eitemau a gasglwyd gan yr Harbwrfeistr a'r tîm amgylcheddol yn cael eu hailddefnyddio a'u hailgylchu gan y saer lleol, Gareth Davies, a greodd Lolfa Eco'r Bae.Mae Gareth bellach wedi cael ei gomisiynu i ddatblygu amgylchedd ystafell ddosbarth a gaiff ei ddefnyddio yn ystod Ras Fôr Volvo fel man addysgol, a leolir ar safle'r digwyddiad dros gyfnod cam Caerdydd.
Wedi'i wneud o sbwriel a daflwyd a gweddillion, bydd y project yn defnyddio plastigau, pren, decio pontŵn, bwois, teiars a rhaff i greu dodrefn unigryw o safon uchel.
Bydd safle digwyddiad Ras Fôr Volvo yn ceisio bod yn ardal ddi-blastig defnydd untro tra ei fod yma yng Nghaerdydd.Bydd pentref y ras ond yn defnyddio cynwysyddion y gellir eu compostio sy'n gallu cael eu gwaredu â gwastraff bwyd, a bydd gan y bar system ailddefnyddio. Gall pobl brynu gwydr brand â'r ddiod gyntaf, ei hailddefnyddio a mynd â hi gartref.
Bydd gorsafoedd ail-lenwi dŵr ar gael i'r cyhoedd a bydd staff a chwmnïau sy'n rhan o'r digwyddiad yn cael gwybod y canllawiau ar waredu gwastraff yn gywir.Y neges allweddol yw arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu.
Mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd, mae Grŵp Afonydd Caerdydd wedi bod yn cynnal cyfres o ddiwrnodau gwirfoddoli i fynd i'r afael â phroblem plastig yn ein dŵr lleol.Ym Mharc Hamadryad, daeth 40 gwirfoddolwr ynghyd i gasglu 54 bag o blastig, wyth côn a thri rhwystr ffordd yn ogystal â 44 bag o sbwriel, sied, potel nwy, dwy goeden Nadolig a thylluan degan.
Caiff rhai o'r plastigau a gasglwyd eu hailgylchu'n offerynnau cerddorol i'w defnyddio i ‘Dan y Bont', project cymunedol AHC sydd am annog pobl ifanc o'r ardal leol i fod yn rhan o weithdai gweithgareddau trefol dros wyliau'r Pasg.Mae AHC a'r Cyngor hefyd yn cydweithio â Cadwch Gymru'n Daclus a TerraCycle ar raglen ailgylchu plastig traeth.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Peter Bradbury"Mae'r broblem o lygredd plastig morol yn gwaethygu ac mae'n wych bod Ras Fôr Volvo yn defnyddio sylw rhyngwladol y digwyddiad i amlygu maint y broblem.
"Mae gennym dîm gwych yn Awdurdod Harbwr Caerdydd sy'n wynebu'r dasg enfawr, barhaus o sicrhau bod Bae Caerdydd heb sbwriel a gweddillion yno, sy'n aml yn cael ei waredu yno'n bwrpasol.Ategir y dasg hon gan waith caled ac ymrwymiad grwpiau gwirfoddol fel Grŵp Afonydd Caerdydd, sy'n ddiflino wrth gasglu gwastraff sy'n difethaf y traethau a'r ardaloedd cyfagos.
"Mae Caerdydd yn ymrwymedig i amlygu'r broblem gynyddol hon a bydd y projectau ailgylchu diweddaraf hyn yn cyfrannu at gyfleu'r neges gan, gobeithio, atal pobl rhag defnyddio'r Bae i waredu gwastraff yn y dyfodol."
Meddai Louise Tambini, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Cadwch Gymru'n Daclus:"Mae'r holl gyhoeddusrwydd am blastig morol wir wedi helpu i godi ymwybyddiaeth o'r mater, ac mae'n wych gweld mwy a mwy o wirfoddolwyr yn ymuno â ni wrth i ni fynd i'r afael â sbwriel yn nyfroedd Caerdydd. Rydym wedi gwneud gwahaniaeth enfawr heddiw, a gobeithiwn ysbrydoli mwy o wirfoddolwyr i ymuno â gweithgareddau yn y dyfodol.Rydym yn falch iawn o'n dinas ac mae'n wych gallu gwahodd ymwelwyr o bedwar ban byd fel rhan o Ras Fôr Volvo.Bydd Grŵp Afonydd Caerdydd yn gwneud ein rhan i waredu ein traethau rhag sbwriel a gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd i sicrhau bod y ddinas yn edrych ar ei gorau".
#CleanSeas@cyngorcaerdydd