Pryd ar Glud dros y Pasg
Bydd gwasanaeth Pryd ar Glud Cyngor Caerdydd yn dosbarthu prydau bwyd i gwsmeriaid dros wyliau banc y Pasg am y tro cyntaf.
Gall cwsmeriaid y gwasanaeth fwynhau prydau poeth, maethlon yn eu cartrefi ar Ddydd Gwener y Groglith a Dydd Llun y Pasg.
Daw hyn wedi llwyddiant dosbarthiadau Nadolig y gwasanaeth, pan gafodd cwsmeriaid brydau bwyd ar Ddydd San Steffan a Dydd Calan am y tro cyntaf.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles, y Cynghorydd Susan Elsmore:"Mae Pryd ar Glud yn wasanaeth gwych sydd bob amser yn edrych am ffyrdd newydd i wella.Roedd dosbarthiadau'r Nadolig yn llwyddiannus iawn, gan helpu pobl hŷn a bregus yn y gymuned a rhoi tawelwch meddwl i'w teuluoedd a'u gofalwyr.
"Mae'r Cyngor wedi bod yn dosbarthu Pryd ar Glud ers 1978 ond mae'r gwasanaeth wedi mynd o nerth i nerth ers iddo gael ei ail-lansio y llynedd.Dwi'n siŵr y bydd y penderfyniad i ymestyn y gwasanaeth dros wyliau banc y Pasg yn amhrisiadwy i gwsmeriaid.
"Mae'r ffigurau'n dweud popeth - dywedodd100% o'n cwsmeriaid eu bod yn hapus ag ansawdd y pryd bwyd, mae97% yn cytuno bod y gwasanaeth wedi'u helpu i aros yn annibynnol yn y cartref ac mae 85% yn cytuno eu bod yn teimlo'n llai unig."
Gall pobl hunan-gyfeirio at y gwasanaeth Pryd ar Glud neu gael eu cyfeirio gan deulu, ffrindiau, cymdogion neu weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol.Mae'r gwasanaeth yn cynnwys gwiriad lles cymdeithasol ac mae ein gyrwyr wedi meithrin perthynas glòs â'r cleientiaid y maent yn cwrdd â nhw.
Gall cwsmeriaid sy'n bodloni un o'r meini prawf canlynol fanteisio ar y gwasanaeth:
Mae'r gwasanaeth fforddiadwy yn darparu ar gyfer pobl o bob oedran, nid dim ond yr henoed, a gall cwsmeriaid ddewis pryd a pha mor aml yr hoffent gael prydau bwyd.Mae amrywiaeth eang o brydau bwyd ar gael, sy'n darparu ar gyfer amrywiaeth o ddietau, cyflyrau a dewisiadau diwylliannol, am £3.90 y dydd am brif gwrs a £4.50 am brif gwrs a phwdin.