Back
Gwasanaeth Coffa Sul y Blodau

Cynhelir Gwasanaeth Coffa eciwmenaidd Sul y Blodau yng Nghapel y Wenallt yn Amlosgfa Draenen Pen-y-graig ddydd Sul 25 Mawrth 2018. 

Bydd y gwasanaeth yn cychwyn am 2pm, a'r Parchedig Michael Witcombe fydd yn arwain. Bydd Deborah Morgan Lewis yn arwain y canu a daw'r gwasanaeth i ben tua 3pm. 

Dywedodd yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Profedigaeth, y Cyng. Michael Michael: "Mae'r gwasanaeth hwn yn gyfle i bobl o bob ffydd ddod ynghyd i gofio a choffáu bywydau eu hanwyliaid. Nid yw colli anwylyd fyth yn hawdd, ond gall cael cyfle i feddwl a chofio gydag urddas fod yn help mawr." 

Wrth gyrraedd y capel, gwahoddir ymwelwyr i roi cerdyn coffa â neges bersonol er cof am anwyliaid ar fwrdd atgofion. Caiff y bwrdd atgofion ei gyflwyno yn ystod y ddefod goffa.Bydd casgliad ar ddiwedd y gwasanaeth, at elusen ‘Sands'. 

Mae gan Sands dair nod: cynorthwyo unrhyw un sydd wedi profi marwolaeth baban, gweithio gyda gweithwyr proffesiynol iechyd i wella gofal profedigaeth a gweithio tuag at ostwng nifer marwolaethu babis trwy hybu ac ariannu gwaith ymchwil. 

Yn elusen Sands Caerdydd a Chasnewydd, prif ffocws y grŵp yw cynorthwyo teuluoedd unigol dros y ffôn, e-bost ac mewn cyfarfodydd cymorth grŵp.Hyd yma, mae Sands wedi darparu pedair Ystafell Brofedigaeth mewn tair ysbyty, mae wedi noddi bydwragedd i fynd i gynadleddau i wella eu gwybodaeth am arferion newydd gorau ac mae wedi talu am hyfforddiant i fyfyrwyr, gweithwyr gofal mamolaeth a bydwragedd i wella gofal profedigaeth. 

Bydd lluniaeth ar gael ar ddiwedd y gwasanaeth. 

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch staff Gwasanaethau Profedigaeth Amlosgfa Draenen Pen-y-graig ar 029 2054 4820.