Back
Masnach Deg mewn ei’n ysgolion
Agwedd bwysig ar Fasnach Deg yw dangos cenedlaethau’r dyfodol y buddion o brynu Masnach Deg. Yn ein holl ysgolion ers 2006, rydym ond wedi gweini bananas Masnach Deg i fyfyrwyr.   Mae’r coffi, te, siocled, ffyn siwgr, sudd oren, cwcis a gwahanol farrau byrbryd rydym yn eu gweini hefyd i gyd yn Fasnach Deg.

Yn ogystal â darparu cynhyrchion Masnach Deg i blant mewn ysgolion, rydym hefyd yn deall pwysigrwydd addysgu disgyblion ar fuddion Masnach Deg.  Fel rhan o Bythefnos Masnach Deg, bu Aled Pickard o FairDos yn ymweld ag ysgolion ar draws y ddinas ac yn siarad â phlant am Fasnach Deg. Pan ofynnwyd iddo pam roedd yn credu ei fod y bwysig addysgu plant yn ei gylch, dywedodd, “rydym yn eu galluogi i sylweddoli faint o waith sy’n mynd i mewn i dyfu a chynhyrchu rhai o’n hoff bethau, megis siocled neu goffi, a’u bod yn deillio o rai o wledydd tlotaf y byd lle nad oes digon o fwyd gan bobl i’w fwyta yn aml.   Mae’n bwysig bod pobl yn sylweddoli bod gennym y pŵer i newid bywydau pobl trwy'r pethau rydym yn eu prynu ac mae prynu cynnyrch Masnach Deg yn ffordd rwydd o wneud hynny."

Pan ofynnwyd iddo sut mae plant yn defnyddio’r wybodaeth maent yn eu clywed am Fasnach Deg, dywedodd “Mae plant yn barod iawn i dderbyn syniadau.  Mae tegwch yn bwysig iawn iddynt – gallant weld pan na fydd sefyllfaoedd yn deg ac maent eisiau newid pethau.  Byddaf yn rhannu storïau gyda’r plant ynglŷn â’r effaith rydym yn ei chael pan fyddwn yn prynu eitemau masnach deg”. “Mae plant yn dwlu ar glywed am y pethau cadarnhaol y mae Masnach Deg yn eu gwneud ledled y byd a sut gallant  helpu."

#PythefnosMasnachDeg @siopategcaerdydd