Back
Dofi Diawl y Dwyrain a Storm Emma yng Nghaerdydd

Bu staff Cyngor Caerdydd, gan herio gwynt a glaw rhewllyd, stormydd eira a lluwchfeydd, yn gweithio o gwmpas y cloc mewn ymateb i'r tywydd eithafol, gan gadw pobl yn ddiogel a galluogi'r Gwasanaethau Brys i weithredu. 

Dangoswyd difrifoldeb y tywydd yng Nghaerdydd gan Rybudd Coch y Swyddfa Dywydd, a olygai fod risg sylweddol i ddiogelwch y cyhoedd.Dyma'r tro cyntaf i Rybudd Coch gael ei gyhoeddi ar gyfer Caerdydd a de-ddwyrain Cymru.Er gwaethaf hynny, brwydrodd staff yn erbyn yr elfennau i gyrraedd y gwaith a chynnig gwasanaethau i bobl Caerdydd. 

Ers nos Fercher mae'r criwiau graeanu wedi trin y rhwydwaith strategol cyfan 13 gwaith - 5460kms i gyd - mae hynny'n fwy na gyrru o arfordir dwyreiniol i arfordir gorllewinol Awstralia.Defnyddiwyd 650 tunnell o halen, sy'n cyfateb i bwysau tua 52 o fysus deulawr. 

Dosbarthodd y gwasanaeth Pryd ar Glud 335 o brydau bwyd poeth ddydd Iau a dydd Gwener.O ddydd Iau i ddydd Sul, deliodd ein gwasanaeth Teleofal â 8267 o alwadau i gyd a chafodd 390 achos o waith trwsio eu cwblhau ar gyfer ein tenantiaid mwyaf bregus.Gadawodd un gweithredwr Teleofal ei chartref yn Llanrhymni am 5am a cherdded i Dŷ Willcox ym Mae Caerdydd er mwyn dechrau ei shifft am 6.30am.Deliodd C2C â 1790 o alwadau ar ddydd Iau yn unig. 

Ymwelodd gofalwyr cartref y Cyngor â 141 o bobl ar draws 556 o ymweliadau rhwng dydd Iau a dydd Sul.Ymwelwyd â'r rhan fwyaf o bobl ar droed (cerddodd dau ofalwr saith milltir mewn un shifft), gan ddangos ymrwymiad rhyfeddol dan yr amodau caletaf. 

Aeth ein timau allgymorth mas ym mhob tywydd i annog pobl oedd yn cysgu ar y stryd i ddod allan o'r oerfel.Gwnaeth ein hosteli letya 81 o bobl ddigartref nos Wener - sy'n fwy o lawer na'r arfer - ac arhosodd y ffigur ar tua 70 o bobl y nos dros y penwythnos. 

Sicrhaodd y Gwasanaeth Mewnol Byw â Chymorth fod y 25 o oedolion ag anableddau dysgu sydd yn ein gofal mewn 11 o gynlluniau ledled y ddinas yn cael cymorth a goruchwyliaeth o gwmpas y cloc.Arhosodd staff yn y gwaith y tu hwnt i'w horiau arferol, a cherddodd llawer ohonynt filltiroedd i gyrraedd y gwaith a sicrhau bod y rheini sydd yn ein gofal yn derbyn y gofal hwnnw. 

Anfonodd y tîm Cyfathrebu a'r Cyfryngau fwy na 2,500 o negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol, a ddenodd mwy na 25,000 clic at ddiweddariadau, cyngor a gwybodaeth ar-lein. 

Deliodd Tîm Dehongli a Chyfieithu Cymru â 255 o alwadau rhwng dydd Iau a dydd Sul, a gweithiodd y staff o amgylch y cloc i gynnal gwasanaeth 24/7. 

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas:"Dros y dyddiau diwethaf, rydym wedi gweld cynifer o wasanaethau a thimau'r cyngor yn cyd-dynnu dan amodau eithriadol i gyflawni dros bobl Caerdydd. 

"Mae llawer o'n cyflogeion wedi bod yn gweithio ddydd a nos, yn brwydro yn erbyn amodau anodd iawn i sicrhau bod ffyrdd yn cael eu clirio, bod prydau ar glud yn cael eu dosbarthu, a bod pobl hŷn a phlant sy'n derbyn gofal yn ddiogel ac yn derbyn gofal. 

"Rwyf wedi clywed adroddiadau gwych am staff yn mynd gam ymhellach i sicrhau ein bod yn gallu bodloni anghenion y rhai mwyaf agored i niwed yn y ddinas, gan gynnwys ein tîm allgymorth yn helpu pobl sy'n cysgu ar y stryd.Gallwn fynd ‘mlaen a ‘mlaen ond rwy'n ofni gadael rhywun allan, felly rwyf eisiau diolch i bob aelod o staff a ymdrechodd i'r eithaf yn ystod y rhybudd tywydd garw hwn."