Cynnal a Chadw'r Gaeaf
Ers dydd Llun, mae Cyngor Caerdydd wedi taenu mwy na 500 tunnell o raean - 450 dros y tridiau diwethaf yn unig.
Dros y gaeaf arferol (3 mis), 2000 tunnell sy'n cael ei ddefnyddio i gyd.
Mae'r amodau wedi bod yn anodd, ond wrth i'r eira doddi mae'r graean yn dechrau adweithio ac mae'r gwaith caled yn dechrau talu ar ei ganfed.
Roedd y tywydd yn eithriadol, yn rhybudd coch difrifol, ac roedd ein gyrwyr a'r timau mas yn y glasrew a'r stormydd eira yn ceisio cadw llwybrau pwysig yn glir, yn helpu pobl agored i niwed, yn dosbarthu pryd ar glud, yn cyflawni gwaith trwsio brys ac yn helpu'r gwasanaethau cymdeithasol a'r gwasanaethau brys dan amodau peryglus.Gofynnwn i chi fod yn amyneddgar wrth i ni geisio helpu'r rheini sydd fwyaf anghenus a chael y ddinas yn ôl ar ei thraed.
Os bydd y rhagolygon yn aros yr un peth, bydd yr eira'n barhau i ddadmer.Gallwch weld hyn yn digwydd mewn rhannau o'r ddinas yn barod.Gwnaeth yr eira parhaus a'r tymheredd rhewllyd amharu ar effeithiolrwydd y graean yn fawr, ond roedd y prif lwybrau ar agor heddiw a byddwn yn gweithio ar y llwybrau eilaidd heno.
Mae timau'r cyngor hefyd wedi bod yn clirio blaen siopau yn y prif ardaloedd siopa, ac mae ein timau allgymorth wedi bod yn helpu'r digartref i ddod i mewn i'n llochesau.
Bydd yna risg fach o iâ du ar lwybrau yn nes ymlaen, felly dylai unrhyw un sy'n cerdded fod yn ofalus iawn, yn arbennig mewn ardaloedd sydd wedi'u clirio o eira ond sydd heb eu trin â halen/graean.
Casgliadau Ailgylchu a Gwastraff-Cynllun ar gyfer yr wythnos yn dechrau Dydd Llun 5 Mawrth
Yn ystod y tywydd garw a rwystrodd y casgliadau ddydd Iau a dydd Gwener, cyflawnodd y criwiau gwastraff ddyletswyddau eraill i gadw Caerdydd i symud.Bu'r timau'n gweithio'n ddiflino gyda'r timau glanhau a phriffyrdd i raeanu lle y bo'n bosibl.Byddant yn parhau i helpu pobl sy'n agored i niwed drwy wasanaethau hanfodol eraill dros y penwythnos, gan gynnwys gyrru cerbydau 4x4 a helpu i raeanu.
Gyda'r tywydd yn gwella'n raddol, a chyda disgwyl i'r eira barhau i ddadmer fory, mae'r cynllun canlynol wedi'i lunio ar gyfer casgliadau gwastraff:https://www.cardiffnewsroom.co.uk/releases/c/17978.html
Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref
Bydd canolfannau Ffordd Lamby a Bessemer Close yn agor fory (dydd Sul 4 Mawrth)
(Mae canolfan Heol Wedal wedi cau'n barhaol)
Gwastraff Masnachol (casgliadau i fusnesau)
Bydd y casgliadau'n ailddechrau fory
Ysgolion
Rydym yn ymwybodol o'r angen i roi digon o rybudd i rieni i allu gofalu am eu plant.Bydd rhagor o gyngor ar agor ysgolion yn cael ei roi ddydd Sul. Bydd yr ysgolion wedyn yn cyfathrebu'n uniongyrchol â rhieni ar ôl gwneud penderfyniad.
Rheoli'r risg o lifogydd wrth i'r eira ddadmer
Mae EVAC Caerdydd wedi cyhoeddi'r cyngor canlynol:
Wrth i'r eira ddadmer sicrhewch fod unrhyw ddraeniau ar/ger palmentydd/priffyrdd yn rhydd o eira ac iâ i atal llifogydd ac i ddiogelu eiddo.