Back
Casgliadau Ailgylchu a Gwastraff - Cynllun ar gyfer yr wythnos yn dechrau Dydd Llun 5 Mawrth

(Diweddarwyd ddydd Mawrth, 6 Mawrth)

 

Yn ystod y tywydd garw a rwystrodd y casgliadau ddydd Iau a dydd Gwener yr wythnos ddiwethaf, cyflawnodd y criwiau gwastraff ddyletswyddau eraill i gadw Caerdydd i symud.Bu’r timau’n gweithio’n ddiflino gyda’r timau glanhau a phriffyrdd i raeanu lle y bu’n bosibl.Buont yn helpu pobl sy’n agored i niwed drwy wasanaethau hanfodol eraill gydol y penwythnos, gan gynnwys gyrru cerbydau 4x4 a helpu i raeanu. 

 

Lluniwyd y cynllun canlynol ar gyfer y casgliadau gwastraff dros y penwythnos wrth i’r tywydd wella ac i sefyllfa’r wythnos ganlynol ddod yn amlycach. 

 

Mae Cyngor Caerdydd yn rhoi blaenoriaeth i Wastraff Cyffredinol, Cadis Ymyl y Ffordd a Chasgliadau Hylendid, felly  mae’r holl gasgliadau Biniau/Sachau Gardd wedi eu gohirio yr wythnos hon tan y dyddiadau casglu nesaf  y gallwch eu gweld ar ein gwefan yn:  https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/Pryd-gaiff-fy-miniau-eu-casglu/Pages/default.aspx

 

Casgliadau y dylid bod wedi eu gwneud ar ddydd Iau 1 Mawrth a dydd Gwener 2 Mawrth


Cesglir y rhain rhwng dydd Llun 5 Mawrth a dydd Mercher 7 Mawrth, felly caiff preswylwyr adael eu biniau a’u bagiau allan i’w casglu, ac eithrio'r Biniau/Sachau Gardd. 

 

Casgliadau y dylid bod wedi eu gwneud rhwng dydd Llun 5 Mawrth a dydd Mercher 7 Mawrth

 

Bydd casgliadau gwastraff cyffredinol, cadis bwyd a bagiau hylendid yn digwydd fel yr arfer (nid y biniau/bagiau gardd). 

 

Ni fydd casgliadau bagiau gwyrdd  yr wythnos hon ar gyfer preswylwyr y cesglir eu gwastraff ar ddydd Llun, Mawrth a Mercher.Yn hytrach, cesglir y rhain yr wythnos ganlynol (wythnos yn cychwyn dydd Llun 12 Mawrth).

 

Gofynnir i’r preswylwyr sydd wedi rhoi eu bagiau ailgylchu i’w casglu rhwng dydd Llun 5 Mawrth a dydd Mercher 7 Mawrth fynd â nhw yn ôl i mewn tan eu diwrnod casglu arferol yr wythnos nesaf. 

 

Casgliadau y dylid bod wedi eu gwneud ddydd Iau 8 Mawrth a dydd Gwener 9 Mawrth 

 

Bydd casgliadau gwastraff cyffredinol, bagiau hylendid a’r bagiau gwyrdd yn digwydd fel yr arfer ddydd Iau a dydd Gwener (nid y biniau/bagiau gardd).  

 

Diolch am eich amynedd gyda’r mater hwn.Os, oherwydd amgylchiadau annisgwyl, bydd rhaid gwneud newidiadau pellach, fe rown wybod i chi trwy ein sianelau cyfryngau cymdeithasol ac ar ein gwefan.