Back
Diweddariad ar Wasanaethau'r Cyngor - Cyhoeddwyd 4.20pm, Dydd Iau 1 Mawrth

Tîm Cynnal a Chadw'r Gaeaf

Mae'r holl gerbydau graeanu yn gweithio i gadw'r prif lwybrau ar agor.

Trefniadau ar waith i symud graean o Ffordd Lamby i Brindley Road - mynd rhagddo

Timau wedi'u hanfon allan i lenwi biniau graean, clirio ardaloedd siopa maestrefi, meddygfeydd, ysbytai, Hybiau ac ati 

Marchnad Caerdydd

Caeodd y farchnad am 2pm, adolygir y sefyllfa ar gyfer dydd Gwener 

Canolfan Croeso

Caeodd y Ganolfan Croeso ym Mae Caerdydd (Canolfan y Mileniwm) am 3pm 

Casgliadau Gwastraff ac Ailgylchu 

Ni fydd casgliadau Domestig a Masnachol heddiw na dydd Gwener 

Mae casgliadau gwastraff swmpus ac ailgylchu wedi'u hatal 

Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref 

Pob un (Bessemer Close, Ffordd Lamby a Heol Wedal) ar gau 

Addysg 

Mae'r awdurdod lleol wedi cynghori pob ysgol i aros ar gau fory. Penderfyniad y Penaethiaid a Chadeiryddion Llywodraethwyr yw hyn. Dylai rhieni gadw llygad allan am negeseuon gan eu hysgolion am y wybodaeth ddiweddaraf.