Back
100 DIWRNOD NES I RAS FÔR VOLVO GYRRAEDD CAERDYDD A CHYMRU

Erbyn dydd Gwener 16 Chwefror ni fydd ond 100 diwrnod i fynd nes i Ras Fôr Volvo, digwyddiad hwylio caletaf ac amlycaf y byd, gyrraedd Caerdydd ar ddydd Sul 27 Mai gan aros yma am 14 diwrnod.

Bydd y cychod sy'n arwain y fflyd fwy na thebyg yn cyrraedd Bae Caerdydd ar ddydd Llun Gŵyl y Banc, ar ôl gwneud y daith o 2,900 o filltiroedd morol ar draws yr Iwerydd o Gasnewydd (yr un yn Rhode Island, UDA!)Mae'r cam hwn o'r ras dros yr Iwerydd yn hwb i enw da Caerdydd fel dinas forol ledled y byd a dyma'r ymweliad cyntaf â'r DU ers 12 mlynedd i'r ras, a ddechreuodd ym 1973. Bydd yn rhoi hwb ariannol sylweddol i economi Cymru yn ystod ‘Blwyddyn y Môr' Croeso Cymru.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, Ken Skates:"Gyda 100 diwrnod i fynd, rydym yn gyffrous iawn am ddyfodiad Ras Fôr Volvo.Mae'n wych ein bod yn rhan o'r digwyddiad hwn - sy'n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddathlu ein glannau godidog ym Mlwyddyn y Môr.Bydd cam Caerdydd yn hwb enfawr i economi Cymru ac yn rhoi proffil mwy cadarnhaol i Gaerdydd a Chymru ym mhedwar ban byd".

Dechreuodd Ras Fôr Volvo, sy'n 45,000 milltir forol, o Alicante fis Hydref diwethaf, gan deithio'r moroedd ac aros yn rhai o gyrchfannau morol enwocaf y byd fel Hong Kong, Cape Town ac Auckland, lle mae'r cychod ar eu ffordd y funud hon.Pan fydd y ras yn gadael Caerdydd ar 10 Mehefin, bydd yn symud i Gothenburg a'r Hâg ac yn dod i ben ar ddiwedd mis Mehefin.

Tra bod y cychod yng Nghaerdydd, bydd Pentref y Ras yn atyniad mawr i ymwelwyr o bedwar ban yn mwynhau sinema Ras Fôr Volvo, stondinau masnach a cherddoriaeth fyw ar lannau'r dŵr.Bydd blas Cymreig i'r ŵyl hefyd gyda chynhyrchwyr o Gymru'n cynnig bwyd a diod wedi ei gynhyrchu'n lleol - o fariau yn cynnig cwrw da i'r stondinau bwyd stryd mwyaf poblogaidd.Bydd Pentref y Ras hefyd yn cynnal digwyddiad busnes Uwchgynhadledd Gefnfor ryngwladol, gan ddenu siaradwyr gwadd o safon i sôn am foroedd glân, un o ganolbwyntiau ymgyrch allweddol Ras Fôr Volvo, gan alluogi Cymru i frolio ein cynaliadwyedd.Gall unrhyw wirfoddolwyr sydd â diddordeb mewn bod yn rhan o Bentref y Ras 27 Mai - 10 Mehefin gofrestru eu diddordeb ynvolvooceanracecardiff.com.

 

Mae un o'r cychod, Turn The Tide On Plastic, yn helpu i ledaenu'r neges am y difrod a achosir gan blastig yn y moroedd, ac mae'n casglu data ar ficroplastig wrth iddo deithio'r byd.Ymhlith y criw mae'r CymroBleddyn Môn sy'n edrych ymlaen at ddod yma ym mis Mai.Dywedodd Bleddyn:"Mae Ras Fôr Volvo yn brawf enfawr o allu a gwydnwch, ac mae wedi bod yn un o brofiadau gorau fy mywyd.Fel Cymro, mae'n wych ein bod yn dod i Gaerdydd, a dwi'n edrych ymlaen at weld fy nheulu a'm ffrindiau wrth gyrraedd Bae Caerdydd ym mis Mai."

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury:"Rydym yn llawn cyffro o groesawu Ras Fôr Volvo i Gaerdydd, gan ymuno â rhai o borthladdoedd mwyaf y byd yn cynnal ras mor amlwg.Mae cystadleuaeth wych yn digwydd ar hyn o bryd ben arall y byd, a gyda 100 diwrnod i fynd, rydym yn edrych ymlaen yn arw at groesawu'r cychod cyntaf i Gaerdydd lle byddant yn gryn olygfa i bobl leol ac ymwelwyr."

Volvooceanracecardiff.com;Visitcardiff.com;Visitwales.com