Back
Ysgol Gynradd Windsor Clive yn dathlu beth sy'n gwneud plant yn unigryw

Mae Ysgol Gynradd Windsor Clive yng Nghaerdydd yn cefnogi'r ymgyrch cenedlaethol i annog plant, pobl ifanc ac oedolion i ddathlu eu hunigrywiaeth. 

Y pennaeth Mrs Meadows a Rheolwr Project Ysgol Place2Be
Mrs Jones gyda disgyblion o Ysgol Gynradd Windsor Clive
 

Mae'r staff a'r plant yn yr ysgol yn cynnal eu diwrnod ‘Bod yn Chi'ch Hun' heddiw, 8 Chwefror, i helpu i hyrwyddo thema Wythnos Iechyd Meddwl Plant 2018, a drefnir bob blwyddyn gan yr elusen Place2Be. 

Gobeithia'r ysgol y bydd ei Diwrnod Bod yn Chi'ch Hun yn codi £100 i'r elusen. Mae'r staff a'r plant wedi bod yn brysur yn trefnu gweithgareddau gan gynnwys cael diwrnod di-wisg ysgol a gwneud cadwyn bapur ysgol gyfan, yn dathlu unigrywiaeth pob disgybl. 

Mae hyd yn oed cystadleuaeth dyfalwch pwy yw'r babi, lle bydd staff yn arddangos eu lluniau babis, er mwyn i'r plant geisio dyfalu a rhoi enw i'r wynebau. 

Dywedodd Pennaeth Ysgol Gynradd Windsor Clive, Mrs Vicky Meadows: "Rydym yn falch iawn o gefnogi Wythnos Iechyd Meddwl Plant Place2Be eto eleni, ac i helpu i hyrwyddo'r pwysigrwydd o'r thema Bod yn Chi'ch Hun. 

"Gall plant a phobl ifanc ei chael hi'n anodd weithiau i ystyried eu hunain mewn ffordd bositif, dyma pam yr ydyn ni'n gweithio gyda Place2Be i'w gwneud nhw deimlo'n fwy cyfforddus yn eu croen eu hunain. 

"Mae llesiant ac iechyd emosiynol a meddyliol ein plant yn bwysig iawn i ni, ac rydym wedi gweithio'n agos gyda Place2Be dros sawl blwyddyn i helpu i gynnig cymorth. Rydym wedi cael ymweliadau o ysgolion ledled y wlad, sy'n awyddus i weld y gwaith yr ydym yn ei wneud. Mae llawer o ysgolion hefyd wedi dechrau gweithio gyda Place2Be ar ôl ymweld ag Ysgol Gynradd Windsor Clive." 

Place2Be yw elusen iechyd meddwl plant arweiniol y DU, gan gynnig cymorth yn yr ysgol a hyfforddiant arbenigol i wella llesiant emosiynol disgyblion, teuluoedd, athrawon a staff ysgol. 

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: "Mae'n hanfodol ein bod ni'n sicrhau iechyd a llesiant ein plant a phobl ifanc, eu teuluoedd a'u staff. Mae Mrs Meadows a'i thîm yn cyflawni arfer gorau yn y maes hwn ac edrychaf ymlaen at ymweld ag Ysgol Gynradd Windsor Clive a'u helpu nhw i ddathlu Wythnos Iechyd Meddwl Plant 2018." 

Gallwch gael mwy o wybodaeth am Wythnos Iechyd Meddwl Plant 2018 ar-lein yn www.childrensmentalhealthweek.org.uk