Back
Categorïau Ysgol 2018

Ysgolion cynradd yng Nghaerdydd

 

Canran yr ysgolion

 

COCH

OREN

MELYN

GWYRDD

2015/16

5.2

17.5

43.3

34.0

2016/17

2.0

13.3

49.0

35.7

2017/18

2.0

8.2

36.7

53.1

 

Ysgolion uwchradd yng Nghaerdydd

 

Canran yr ysgolion

 

COCH

OREN

MELYN

GWYRDD

2015/16

21.1

31.6

21.1

26.3

2016/17

15.8

26.3

31.6

26.3

2017/18

5.6

5.6

50.0

38.9

 

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: "Mae'n galonogol iawn gweld cynnydd sylweddol yn nifer yr ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghaerdydd yn y ddau gategori uchaf, gwyrdd a melyn. 

"Yn 2015, roedd 77 y cant o ysgolion cynradd a 47 y cant o ysgolion uwchradd yng Nghaerdydd yn y categori gwyrdd neu felyn yn ôl Llywodraeth Cymru. Bellach mae 90 y cant o'n hysgolion cynradd ac 89 y cant o'n hysgolion uwchradd yn y ddau gategori uchaf. 

"Dros yr un cyfnod, mae nifer yr ysgolion cynradd yng Nghaerdydd yn y categori isaf, coch, wedi disgyn o 5 y cant i 2 y cant, ac ymhlith ein hysgolion uwchradd mae'r ffigur wedi gostwng o 21 y cant i 6 y cant. 

"Mae categoreiddio ysgolion eleni eto'n dangos y cynnydd sy'n cael ei wneud gan ein hysgolion, gyda chefnogaeth Cyngor Caerdydd a Chonsortiwm Canolbarth y De wrth sicrhau'r gwelliant parhaus hwn. 

"Fel rhan o Uchelgais Prifddinas, rydym am sicrhau bod pob plentyn yng Nghaerdydd yn mynd i ysgol dda neu ragorol, ac mae'n dda gweld y gwaith rydym wrthi'n ei wneud i godi safonau'n cael ei adlewyrchu yn y categorïau ysgol diweddaraf."

 

Ymateb pellach i gategorïau 2018 gan rai o ysgolion Caerdydd 

Nic Naish, Pennaeth Ysgol Gynradd Trowbridge (Oren): "Mae Trowbridge wedi gwneud gwelliannau sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf gyda chymorth ei hysgol bartner leol, Ysgol Gynradd Greenway. 

"Mae'r cymorth hwn rhwng ysgolion wedi bod o fudd i'r ddwy ysgol a bydd yn gwthio Ysgol Gynradd Trowbridge at y categori melyn yn y flwyddyn i ddod.

 "Mae'r holl staff wedi croesawu'r cyfle i rannu arfer gorau ac adnoddau. Mae hon yn enghraifft gadarnhaol tu hwnt o ysgol ‘werdd' yn cefnogi eraill."

 

Rhian Lundrigan, Pennaeth Ysgol Gynradd Bryn Hafod (Gwyrdd): "Rwy'n arbennig o falch o'n taith i wella ysgolion dros y ddwy flynedd ddiwethaf, o fod yn y categori Coch yn Ionawr 2017 i fod yn y categori Gwyrdd eleni.

 

Vicky Meadows, Pennaeth ysgol Gynradd Windsor Clive (Gwyrdd): "Rydym yn falch o fod wedi symud o felyn i'r categori uchaf sef gwyrdd. Mae'n brawf o'r holl waith caled gan bawb yng nghymuned yr ysgol, sy'n cydweithio i sicrhau ein bod yn cynnig yr addysg orau posib i'n plant. 

"Mae cael ein henwi'n ysgol categori gwyrdd yn gymeradwyaeth bellach i ni, ac yn dilyn penderfyniad gan Gonsortiwm Canolbarth y De i roi statws hyb i Windsor Clive am ddysgu proffesiynol, gyda ffocws ar gau'r bwlch. 

"Mae'r gwaith a wnawn i gynyddu cyfleoedd bywyd ein holl blant, waeth beth fo'u sefyllfa bersonol, wedi ei ganmol gan lawer o weithwyr proffesiynol sy'n ymweld â'r ysgol, ac rwy'n falch o weld hefyd fod Llywodraeth Cymru'n ein hystyried fel ysgol sy'n perfformio gyda'r gorau."
 
 

"Mae'r gwaith diflino gan ein tîm o staff, disgyblion, rhieni a llywodraethwyr wedi bod yn hollbwysig wrth symud yr ysgol ymlaen ac rwy'n falch iawn o bawb.

 

"Mae'r cynnydd a wnaed dros gyfnod byr o amser, yn adlewyrchu ymrwymiad ac ymroddiad cymuned ysgol gyfan Ysgol Gynradd Bryn Hafod. Rydym wedi gweithio'n galed i gyrraedd y pwynt hwn, a byddwn oll yn parhau i adeiladu ar ein cyflawniadau anhygoel drwy ‘Gydweithio i Fod y Gorau y Gallwn'. Mae hon yn adeg gyffrous i ni oll"

 

David Harris, Pennaeth Ysgol Gynradd Oakfield (Gwyrdd): "Mae hwn yn amlwg o ganlyniad i waith caled yr holl blant a phawb sy'n rhan o'r ysgol, gan gynnwys teuluoedd, llywodraethwyr, y Gymdeithas Rhieni ac Athrawon a staff."

 

Ruth Jackson, Pennaeth Ysgol Gynradd Kitchener (Gwyrdd): "Cafodd Ysgol Gynradd Kitchener arolygiad ‘rhagorol ddwbl' yn 2016 ond er hynny roedd y ffordd y gweithiodd y broses gategoreiddio bryd hynny'n golygu na allem ond â chael ein rhoi'n y categori 'melyn'. 

"Bellach mae'r system honno wedi symud i ffwrdd rhag defnyddio grwpiau safonau, ac mae hon yn ysgol werdd sy'n adlewyrchu'n gywir waith caled ac ymrwymiad cymuned yr ysgol gyfan wrth gyflawni dros blant Glan-yr-afon, y mae Saesneg yn iaith ychwanegol i nifer ohonynt."

 

Elizabeth Beavers, Pennaeth Ysgol Gynradd Glyn Coed (Gwyrdd): "Rydym yn falch iawn o'n categoreiddio'n Wyrdd yn Ysgol Gynradd Glyncoed. 

"Rydym yn parhau i lwyddo ac mae cyflawniadau a safonau uchel drwy gydol yr wythnos yn adlewyrchiad o'r gwaith gwych a'r ymrwymiad gan y disgyblion, staff, rhieni a llywodraethwyr. 

"Gweithiwn gyda'n gilydd gyda'n teuluoedd i sicrhau bod ein holl ddisgyblion yn cyflawni orau y gallant sy'n adlewyrchu arwyddair ein hysgolTeulu Dysg: Ysgol Lwyddiant."

 

Huw Powell, Pennaeth yn Ysgol Mair Ddihalog (Gwyrdd): "Rydym yn arbennig o falch o fod yng nghategori Gwyrdd eto am y bedwaredd flynedd o'r bron, ac mae'n dyst i ymrwymiad a phenderfyniad staff a myfyrwyr at ei gilydd. Rydym yn falch o allu cael ein cydnabod am y gwaith a wnawn bob blwyddyn."

 

John Wilkinson, Cadeirydd y Llywodraethwyr yn Ysgol Gynradd Lakeside (Gwyrdd): "Mae Lakeside wedi bod yn gwneud cynnydd mawr ers ein hadroddiad arolygu da yn Chwefror 2015, sydd er hynny wedi gweld yr ysgol dan fesurau monitro'r awdurdod lleol am ddau dymor a'i rhoi yn y categori melyn. 

"Cydweithiodd uwch arweinwyr, staff a disgyblion gyda'i gilydd i godi'r ysgol o fesurau monitro, ac mae cyhoeddiad heddiw i ni gyflawni'r statws Gwyrdd uchel ei barch mewn dwy flynedd yn gydnabyddiaeth bellach a haeddiannol o'r gwaith caled a'r ymrwymiad hwnnw. 

"Er bod ein ffocws ar godi safonau'n ddi-baid, mae ein pennaeth newydd a'n staff ymroddedig yn ymrwymedig i sicrhau bod Lakeside yn ysgol hapus, lle mae'r plentyn cyfan yn cael ei feithrin a bod lles wrth wraidd ein hethos."

 

Jenny Scott, Ysgol Gynradd Parc Ninian (Gwyrdd):"Rydym yn gyffrous ein bod yn dal i wella a bod Ysgol Gynradd Parc Ninian yn y categori gwyrdd. Ymdrech tîm oedd hon - diolch i waith caled staff, disgyblion, rhieni a llywodraethwyr."

 

Carrie Jenkins, Pennaeth Ysgol Gynradd Gabalfa (Gwyrdd): "Rydym wrth ein boddau bod gwaith caled y staff, y rhieni a'r disgyblion wedi arwain at fod yn y categori gwyrdd yn 2018".

 

Claire Skidmore, Pennaeth Ysgol Gynradd Radur (Gwyrdd): "Mae Ysgol Gynradd Radur ar ben ei digon ei bod wedi'i chydnabod yn ysgol werdd yn y categorïau diweddaraf. Mae taith wella'r ysgol, er yn un heriol, wedi bod yn foddhaus tu hwnt. 

"Mae'n bleser gen i weithio gyda thîm rhyfeddol o staff yn Ysgol Gynradd Radur, ac yn ffodus bod ein llywodraethwyr yn rhoi her briodol i ni. Diolch am gymorth parhaus ein rhieni ac yn bwysicaf oll y disgyblion gwych sydd bob amser yn frwd dros ddysgu."

 

Rachel Woodward, Pennaeth Ysgol Gynradd Crist y Brenin (Gwyrdd): "Mae'r staff, y Corff Llywodraethu a'r disgyblion wrth eu bodd bod yr ysgol yn y categori gwyrdd eleni. 

"Mae gwaith caled ac ymrwymiad cymuned ein hysgol wedi arwain at hanes o gynnal safonau uchel, arweinyddiaeth effeithiol a gwaith partneriaeth cryf gan weithio gydag ysgolion eraill".

 

Mrs Amanda Reynolds, Pennaeth Ysgol Gynradd Pentyrch (Coch): "Mae Ysgol Gynradd Llanisien Fach yn gweithio ar argymhellion Estyn ac yn gweithio'n gadarnhaol â'n hysgol bartner, Ysgol Gynradd Llanisien Fach, ein rhieni a'r gymuned yn ehangach i fynd i'r afael â'r blaenoriaethau hyn.


"Rydym yn gweithio'n agos gyda Chonsortiwm Canolbarth y De a'r awdurdod lleol i asesu cynnydd yn erbyn argymhellion adroddiad arolygu'r ysgol. Mae gwaith cryf rhwng ysgolion yn effeithiol iawn wrth ein galluogi i ddatblygu system hunan-wella a fydd yn gynaliadwy dros amser.
 

"Fel ysgol rydym yn ymrwymedig i roi'r profiadau gorau i'n disgyblion, ac addysg a fydd yn eu datblygu'n ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu drwy eu hoes."

 

Armando Di Finizio, Pennaeth Ysgol Uwchradd Y Dwyrain (melyn): "Fel y gallwch ddychmygu, rydym yn falch iawn o gategoreiddiad Ysgol Uwchradd Y Dwyrain. 

"Mae symud o goch i felyn yn gyflawniad anhygoel, sy'n dyst i waith caled ac ymrwymiad ein myfyrwyr a'n staff dros y blynyddoedd diwethaf."

 

Martin Hulland, Pennaeth Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd (Coch): "Gyda chefnogaeth yr awdurdod lleol a Chonsortiwm Canolbarth y De, rydym yn gweld llawer o welliannau yn yr ysgol. Er enghraifft, mewn dim ond 80 o ddyddiau gwaith rydym wedi gweld allgáu yn syrthio i'r hanner a chynnydd o 2% mewn presenoldeb. Mae derbyniadau dewis cyntaf wedi cynyddu 25% o gymharu â'r ceisiadau am le yn y ffederasiwn y llynedd. 

"Mae ein taith tuag at welliant yn mynd rhagddo'n dda ac mae dyfodol disglair gan Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, gyda'n cartref£36m newydd ynagor yr adeg hon y flwyddyn nesaf. 

"O ystyried y cynnydd a wnaed hyd yma, rwy'n hyderus y byddwn yn parhau i weld safonau'n gwella, ac i hyn gael ei adlewyrchu mewn asesiadau o'r ysgol yn y dyfodol."

 

Tracey Stephens, Pennaeth Ysgol Uwchradd Cathays (Gwyrdd): "Mae ein categoreiddio'n ysgol werdd yn dangos safonau rhagorol yr ysgol dros y blynyddoedd diwethaf.

 "Yn allweddol i hyn mae ein gweledigaeth gynhwysol o ‘gyfleoedd i bawb' a meithrin arweinwyr a dysgwyr rhagorol."