Mae dechrau yn yr ysgol gynradd yn amser cyffrous i blant a rhieni, ond gall fod yn amser pryderus hefyd. Rhaid gwneud penderfyniadau ar yr ysgolion y gwneir cais amdanynt, ac yna aros i weld a yw'r cais wedi bod yn llwyddiannus.
Ond mae rhai pethau allweddol y gellir eu gwneud a fydd yn helpu i wneud y broses mor ddidrafferth â phosibl:
Ymweld ag ysgolion cyn gwneud cais er mwyn cael cymaint o wybodaeth â phosibl - gellir dod o hyd i restr lawn o ysgolion ar-lein ynwww.caerdydd.gov.uk/ysgolion
Cyflwyno ceisiadau erbyn y dyddiad cau, sef 8 Ionawr 2018
Defnyddio'r holl ddewisiadau sydd ar gael drwy wneud cais ar gyfer tair ysgol
Yn ogystal ag ysgolion cynradd awdurdodau lleol, a elwir yn ysgolion cymunedol, gall rhieni wneud cais yn uniongyrchol i ysgolion ffydd. Mae rhagor o wybodaeth am y broses ymgeisio ar gyfer y gwahanol fathau o ysgolion ar gael ar-lein ynwww.caerdydd.gov.uk/derbyniysgolion
Amserlen ar gyfer gwneud cais am ysgol gynradd
Tachwedd
13 Tachwedd 2017 - y dyddiad agor ar gyfer ceisiadau ar-lein i ysgolion cynradd (ewch iwww.caerdydd.gov.uk/derbyniysgolion)
Ionawr
8 Ionawr 2018 - y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i ysgolion cynradd
Rhai pethau pwysig i'w cadw mewn cof wrth ymgeisio
Ni chynigir lle ysgol i chi os nad ydych chi'n gwneud cais
Nid oes gennych well siawns o gael lle mewn ysgol drwy ei rhestru fwy nag unwaith
Ni warentir lle yn ysgol eich dalgylch, ond mae'n well ei chynnwys ar eich rhestr flaenoriaeth, hyd yn oed os ydych chi'n ei nodi'n is ar y rhestr
Ni pheryglir eich siawns o gael cynnig lle yn eich prif ddewis drwy dderbyn cynnig am le mewn ysgol sy'n ddewis is gennych - mae dal modd i chi dderbyn cynnig gan eich dewis ysgol os daw lle ar gael ar ddyddiad hwyrach
Nid yw'r ffaith bod brawd neu chwaer eisoes mewn ysgol yn gwarantu lle yno, ond sicrhewch eich bod chi'n cynnwys eu manylion yn eich cais
Nid yw mynychu'r feithrinfa sy'n gysylltiedig â'ch dewis ysgol yn golygu lle awtomatig mewn dosbarth derbyn - bydd angen cyflwyno cais newydd
Gall cais hwyr effeithio'n sylweddol ar eich siawns o gael lle, felly nodwch y dyddiad cau. Dyma nodyn atgoffa:
Ysgolion Cynradd: Dydd Llun 8 Ionawr 2018
Os oes hefyd gennych blentyn sy'n mynd i'r ysgol uwchradd flwyddyn nesaf, dyma'r dyddiad cau:
Ysgolion Uwchradd: Dydd Llun 4 Rhagfyr 2017
I gael gwybod mwy am y broses derbyn i ysgolion yng Nghaerdydd, ac i wneud cais ar-lein, ewch iwww.caerdydd.gov.uk/derbyniysgolion