Back
Antur Awyr Agored yn arwain at Ymddygiad Gwell yn yr Ystafell Ddosbarth

Mae disgyblion blwyddyn 7 Ysgol Uwchradd Y Dwyrain wedi'u croesawu'n ôl i'r ganolfan am y drydedd flwyddyn yn ddiweddar yn rhan o'u proses bontio i'r ysgol uwchradd. Y llynedd dywedwyd bod lefelau cyrhaeddiad yn Saesneg ymhlith disgyblion blwyddyn 7 wedi gwella a gwelodd athrawon egni cadarnhaol ac awydd i ddysgu ymhlith y rhai hynny a aeth i Storey Arms.

Yn ystod eu harhosiad, mae plant yn dringo Pen Y Fan ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau megis cerdded ceunentydd, dringo rhaeadrau, croesi creigiau, neidio mewn pyllau afonydd a chwblhau llwybrau fforest gyda'r nos. Yn ogystal â bod yn ffordd dda o wella hunan-barch a gwaith tîm, defnyddir y trip hefyd i helpu i ddatblygu sgiliau ysgrifennu creadigol, gan ddefnyddio'r profiad awyr agored i ysbrydoli plant.

Yn yr un modd, mae adroddiad a ysgrifennwyd gan athrawon Coleg Cymunedol Michaelson yn disgrifio sut gall ‘amser i ffwrdd' newid sut mae myfyrwyr yn ymgysylltu â'u dysgu.

Gwelodd staff addysgu fod myfyrwyr, wrth fynd â nhw i Storey Arms, yn cael gwared ag ymddygiadau dysgu annefnyddiol, a bod lefelau hunan hyder a disgwyliadau, oedd yn isel yn flaenorol, yn cynyddu. Roedd yr amgylchedd mwy anffurfiol yn ystod amser astudio, amser ymlacio ac amser prydau a sesiynau gweithgareddau wedi galluogi i'r staff a'r disgyblion i wella eu perthnasau.

Roedd yr amgylchedd cefnogol yng Nghanolfan Storey Arms gyda'i phrosesau clir yn annog disgyblion i gydweithio, gyda rhai disgyblion yn dangos lefelau o gymorth nas gwelwyd o'r blaen. Ers yr ymweliad ym mis Ebrill, mae tri disgybl wedi cysylltu â Storey Arms i ofyn a oes modd iddyn nhw ymuno â'r staff i wneud profiad gwaith gwirfoddol, a ysbrydolwyd gan yr ethos a'r gwasanaethau y mae'r ganolfan yn eu cynnig. Mae pob un ohonyn nhw bellach â dyheadau i ddatblygu eu sgiliau eu hunain o ran helpu plant eraill yn y dyfodol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Chwaraeon, Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae Storey Arms, sydd wedi bod yn croesawu disgyblion Caerdydd ers 1971, wedi sefydlu ei hun yn sefydliad ar gyfer dysgu antur awyr agored ac wedi chwarae rhan annatod ym mywydau pobl ifanc, gan wella eu hiechyd a'u llesiant.

"Mae llwyddiant ysgolion megis Ysgol Uwchradd Y Dwyrain yn pwysleisio ymhellach y pwysigrwydd o ddysgu awyr agored i wella hunan hyder, gwaith tîm a rhyngweithio cymdeithasol yn ogystal â'r effaith cadarnhaol y mae'n ei gael ar blant yn yr ystafell ddosbarth."

I ddysgu mwy am Storey Arms ewch iwww.storeyarms.comi wylio'r fideos canlynol: