Back
Darparu cartrefi fforddiadwy

Bydd cynlluniau i sicrhau 30 o gartrefi newydd sbon mewn ardal yn y ddinas lle mae galw mawr am dai yn cael eu trafod wythnos nesaf.

Mae'r Cyngor yn ystyried llunio cytundeb gyda Chymdeithas Tai Cadwyn i ddarparu 30 o fflatiau newydd sbon ar Courtenay Road yn Sblot.

Byddai'r cytundeb yn cyfrannu at fwrw targed y Cyngor o sicrhau 1,000 o dai cyngor newydd yn ystod y pum mlynedd nesaf, drwy ei raglen Cartrefi Caerdydd, caffaeliadau a mentrau tai arloesol eraill.

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau: "Mae cyfle cyffrous wedi codi i gael gafael ar 30 o fflatiau newydd sbon yn Sblot lle mae angen gwirioneddol i ni gynyddu ein stoc o dai rhent fforddiadwy.

"Bydd y fflatiau newydd yn darparu tai cyngor sydd wir eu hangen, yn agos at ganol y ddinas ac yn ein helpu ar ein ffordd i ddarparu 1,000 o dai cyngor newydd."

Bydd y cynllun yn cynnwys 20 o fflatiau un ystafell wely a deg fflat dwy ystafell wely.

Bydd y Cyngor yn cyflwyno'r cynllun i Lywodraeth Cymru i'w gynnwys yn nosraniad "Grant Tai Fforddiadwy" yr awdurdod.

Bydd y Cabinet yn ystyried argymhellion o ran llunio cytundeb rhwng y Cyngor â Chymdeithas Tai Cadwyn yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau, 12 Hydref.