Back
Adroddiad newydd yn amlygu'r problemau sylweddol sy'n effeithio ar Afonydd Caerdydd

Mae ymchwiliad i gyflwr tair prif afon Caerdydd wedi amlygu problemau fel llygredd, camddefnyddio carthffosydd a rhywogaethau ymledol. Dengys adroddiadAdfer Afonyddfod ardaloedd afonydd Elái, Taf a Rhymni'n gweld gostyngiad yn nifer y pysgod, ansawdd dŵr gwael a halogi sy'n difrodi'r bywyd gwyllt a'r ecosystem leol.

 

Caiff yr adroddiad ei glywed yng nghyfarfod Cabinet y Cyngor ar ddydd Iau 21 Medi a bydd yn codi amryw argymhellion i wella ansawdd afonydd a chyrsiau dŵr yng Nghaerdydd a Basn Afon ehangach De-ddwyrain Cymru.

 

Canfuwyd taw'r prif bethau sy'n achosi llygredd yw camddefnyddio carthffosydd a cham-gysylltu nwyddau gwynion fel golchwyr llestri a pheiriannau golchi - gyda'r dŵr o'r offer hwn yn cyrraedd cyrsiau dŵr lleol. Ymhlith y ffynonellau eraill sy'n creu llygredd mae sbwriela, gwastraff fferm gan gynnwys llaid a biswail a gwaredu braster, saim ac olew yn anghywir o safleoedd arlwyo.

Canfuwyd rhywogaethau estron ac ymledol fel Llysiau'r Dial, Ffromlys Chwarennog, Misglod Rhesog a Berdys Rheibus, sy'n effeithio'n andwyol ar yr ecosystem leol. Ar yr un adeg effeithiwyd ar rywogaethau fel eogiaid, brithyll, cochgangen, sliwennod ac anifeiliaid di-asgwrn cefn gan ddiwydiannu a threfoli, gyda chyflwyno adeileddau dynol fel coredau'n creu rhwystrau i bysgod mudol i'w silfeydd.

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Amgylcheddol, y Cynghorydd Ramesh Patel: "Daeth i'r amlwg bod pwysau bywyd modern yn cael effaith negyddol ar ein hafonydd lleol ac mae'r adroddiad hwn yn dangos bod angen mabwysiadu ystod o fentrau i fynd i'r afael â hyn, gan sicrhau bod ein hafonydd yn ffynnu ac y cânt eu hadfer. Mae angen gweithredu mesurau rheoli felly mae'n hollbwysig gweithio mewn partneriaeth. Drwy gydweithio fel partneriaeth byddwn yn cyflawni mwy."

 

Cyflawnodd y Cyngor yr ymchwiliad hwn ar y cyd â Dŵr Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cadwch Gymru'n Daclus, Ymddiriedolaeth Afonydd De-ddwyrain Cymru, Grŵp Afonydd Caerdydd, Genweirwyr Morgannwg a Groundwork Cymru.