Parti yn Hyb y Llyfrgell Ganolog
Bydd Her Ddarllen yr Haf yn digwydd cyn bo hir a bydd parti llawn hwyl yn cael ei gynnal yn Hyb y Llyfrgell Ganolog i ddathlu ei lansiad.
Bydd y lansiad yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn 15 Gorffennaf (2-4pm) ac yn nodi bod Her Ddarllen Haf yr Asiantaeth Ddarllen, sydd ar waith mewn llyfrgelloedd ledled y wlad, yn ei hôl.
Bydd y parti lansio yn cynnwys llawer o weithgareddau hwyl a sbri, yn cynnwys celf a chrefft, amser stori, helfa drysor a llawer mwy. Bydd ymwelwyr ifanc yn gallu cofrestru yn y Llyfrgell Ganolog neu lyfrgelloedd cangen y ddinas ar gyfer yr her i ddarllen unrhyw chwe llyfr o'u dewis dros wyliau'r haf.
Thema her eleni yw ‘Asiant-Anifeiliaid' a bydd tîm o greaduriaid clyfar yn mynd ati i ddatrys troseddau o bob math, gan gynnwys ambell ddigwyddiad digon rhyfedd yn y llyfrgell.
Gall plant rhwng 4 ac 11 oed gofrestru. Y llynedd, cofrestrodd dros 6,400 o blant yng Nghaerdydd ar gyfer yr her ac eleni, y gobaith yw y bydd mwy fyth yn cymryd rhan.
Roedd mwy na 7,700 o bobl yn bresennol mewn 342 o ddigwyddiadau yn ystod haf y llynedd a chyhoeddwyd 134,980 o lyfrau plant yn ystod y gwyliau.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Mae Her Ddarllen yr Haf yn fenter wych ac rwy'n hynod falch bod Llyfrgelloedd Caerdydd yn cynnal haf llawn gweithgareddau unwaith eto i blant y ddinas.
Mae'r Her yn hwyl, yn annog plant i gael pleser o ddarllen, ac mae hefyd yn eu cadw mewn cysylltiad â llyfrau dros wyliau'r ysgol, adeg pan all sgiliau llythrennedd dioddef.
"Mae ein llyfrgelloedd y gwneud gwaith gwych yn cynnal diddordeb plant mewn llyfrau a'u cael nhw i fod ynghanol pethau."
Bydd gwobrau i blant wrth iddynt ddarllen eu llyfrau, a bydd pawb sy'n cwblhau'r her yn cael taleb ar gyfer hufen iâ ym mharlwr Hufen Iâ Joe ar Wellfield Road, ynghyd â thystysgrif a medal.
I gael y newyddion diweddaraf am Her Ddarllen yr Haf yn llyfrgelloedd Caerdydd, ewch i www.caerdydd.gov.uk/llyfrgelloedd neu dilynwch ni ar Twitter @cdflibraries a www.facebook.com/SummerReadingChallengeCardiff