Back
Torri tywarchen yn nodi carreg filltir fawr i un o ysgolion Caerdydd

Bu seremoni torri tywarchen yn Ysgol Gynradd Howardian ym Mhen-y-lan yr wythnos hon i ddathlu dechrau'r gwaith o adeiladu cartref pwrpasol newydd yr ysgol. 

[image]

Croesawodd y Pennaeth, Dr Helen Hoyle, Ddirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, y Cyng. Sarah Merry, gwleidyddion lleol, llywodraethwyr, swyddogion Cyngor Caerdydd a staff o Morgan Sindall, y cwmni sy'n adeiladu'r ysgol, i ymuno â nifer o'r disgyblion i dorri'r darn seremonïol o dir. 

Bydd y project gwerth £6.6m, a ariennir ar y cyd gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru trwy raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, yn adeiladu cartref newydd ar gyfer yr ysgol pan fydd yn symud o'i leoliad dros dro mewn adeiladau wrth ymyl y safle. 

Bydd yr adeilad 2500 metr sgwâr deulawr, y disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn yr haf nesaf, yn rhoi lle i hyd at 420 o ddisgyblion, mewn dau ddosbarth y flwyddyn, o ddosbarth derbyn i flwyddyn 6, yn ogystal â chynnig 48 o leoedd meithrin. 

Mae'r ysgol wedi'i dylunio i gynnwys cyfleusterau cymunedol sy'n cynnwys ystafell gymunedol ddynodedig, prif neuadd a neuadd lai a allai fod ar gael y tu allan i oriau ysgol. Mae ardal gemau amlddefnydd hefyd wedi'i chynnwys yn y dyluniad. 

[image]

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Bu'n bleser cael fy ngwahodd i'r seremoni torri tywarchen yn Ysgol Gynradd Howardian. 

"Yn ogystal â rhoi'r cyfle i mi i ymuno â'r ysgol i ddathlu carreg filltir fawr yn y project, ces i'r cyfle i deimlo cyffro'r plant a'r staff wrth iddynt edrych ymlaen at Ysgol Gynradd Howardian yn symud i gartref pwrpasol newydd sbon y flwyddyn nesaf. 

"Mae ein Huchelgais Prifddinas yn nodi'n glir flaenoriaethau'r Cyngor ar gyfer addysg yn y ddinas, gan gynnwys ein hymrwymiad i fuddsoddi mewn gwella ac ymestyn ein hysgolion. 

"Mae'r project cyffrous hwn yn Ysgol Gynradd Howardian yn ffurfio rhan o'n Rhaglen yr 21ain Ganrif gwerth £164m i gyflawni'r ymrwymiad hwnnw. 

"Trwy'r rownd bresennol hon o fuddsoddi rydym wedi adeiladu ysgolion newydd ac rydym yn parhau i adeiladu ysgolion newydd - gan gynnwys dwy ysgol uwchradd a phum ysgol gynradd, yn ogystal ag ariannu twf ysgolion eraill." 

[image]

Meddai Dr Helen Hoyle, Pennaeth newydd Ysgol Gynradd Howardian: "Mae hon yn foment mor gyffrous i Ysgol Gynradd Howardian. 

"Ers i'r ysgol agor yn 2015, dan arweinyddiaeth Mr Colin Skinner a Miss Rachell Smith, mae pawb sy'n rhan o'r ysgol wedi bod yn edrych ymlaen at symud i'n cartref newydd sbon. 

"Mae'r cyffro'n cynyddu gyda phob carreg filltir rydym yn ei chyrraedd, a dyma foment sylweddol yn nhaith yr ysgol tuag at gyrraedd y foment pan gawn ni'r allweddi ar gyfer ein hysgol bwrpasol. Mae'r plant, y rhieni, y staff a'r corff llywodraethu wrth eu bodd bod y gwaith wedi dechrau. 

"Mae teimlad go iawn o ysbryd cymunedol yma yn Ysgol Gynradd Howardian, ac rydym i gyd yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod yr ysgol newydd yn llwyddiannus." 

Meddai Cyfarwyddwr Rhanbarthol Morgan Sindall, Rob Williams: "Rydym yn falch o weithio'n agos iawn gyda Chyngor Caerdydd i greu'r ysgol wych hon. 

Mae gennym raglen o weithgareddau ymgysylltu gwych a fydd o fudd i'r disgyblion a'r gymuned yn ystod y project hwn." 

Drwy Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yng Nghymru yn cydweithio i sefydlu ysgolion priodol yn y mannau priodol. 

Prif flaenoriaethau'r rhaglen fuddsoddi yw:

  • Sicrhau bod digon o leoedd ar gael i ateb y galw

  • Buddsoddi mewn ysgolion newydd ac adnewyddu ysgolion presennol

  • Bodloni'r galw am addysg Gymraeg a Saesneg

  • Creu darpariaeth feithrin ar safleoedd ysgolion cynradd

Mae Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Cyngor Dinas Caerdydd werth £164m.