Back
Pennaeth yn datgelu bathodyn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd

Mae Mr Martin Hulland yn rhoi'r diweddaraf wrth i waith fynd rhagddo i agor yr ysgol newydd ym mis medi. 

Rwy'n falch o allu cyhoeddi, yn dilyn ymgynghori manwl ac eang, fod y dyluniad canlynol wedi ei ddewis ar gyfer bathodyn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd:

[image]

Carwn ddiolch i bawb a gymerodd yr amser i gysylltu â ni yn ystod yr ymgynghoriad ar y tri dewis a gynigwyd gennym. 

I'r ysgol mae hwn yn fwy na bathodyn yn unig, mae'n cynrychioli ein hethos, yn rhoi i ni hunaniaeth ac yn nodi cam mawr arall ymlaen tuag at agor yr ysgol ym mis Medi. 

Mae'r bathodyn a ddewiswyd wedi ei ysbrydoli gan yr ardal, yn dathlu treftadaeth gyfoethog safle'r ysgol ac yn cynrychioli ysgol fraenaru uwchradd gymunedol newydd sbon Gorllewin Caerdydd. 

Mae'r pedwar eicon wedi eu cymryd o gyfnodau arwyddocaol yn hanes yr ardal. Mae'r ceffyl yn cynrychioli hen safle cwrs rasio Trelái ac yn symbol o ysbryd a rhyddid. 

Mae siâp yr helmed a'r darian Rufeinig ar y bathodyn yn cydnabod y vila Rhufeinig ar y safle ac yn cyfleu'r syniad o ddiogelwch. 

Mae'r Cwlwm Celtaidd yn cyfeirio at y fryngaer Geltaidd gerllaw a'r coed deri niferus ym mharc Trelái, drws nesaf i safle newydd yr ysgol. Mae sawl math o Gwlwm Celtaidd ac fe gaiff yr un yma ei adnabod fel 'Cwlwm Dara', a ddewiswyd ar gyfer y bathodyn oherwydd ei fod wedi ei seilio ar wreiddiau cryf y dderwen a'i fod yn cynrychioli cryfder, doethineb a hirhoedledd. 

I gloi, yn symbol o bopeth Cymreig, mae'r ddraig yn gosod stamp o bwys cenedlaethol ar yr ysgol mewn Cymru sy'n flaengar, hyderus ac uchelgeisiol. 

Gan fod y bathodyn bellach wedi ei ddewis, mae modd i ni hefyd ddatblygu brandio'r ysgol. Caiff y bathodyn ei addasu fel logo mewn amryw ffyrdd, gan gynnwys ar wefan newydd, arwyddion yn yr ysgol ac ar bapur gohebu. 

Mae dyluniad y wisg ysgol hefyd yn mynd rhagddo'n dda a gallaf rannu'r delweddau diweddaraf gyda chi yma, gyda mwy o fanylion i ddod dros yr wythnosau nesaf wrth i'r dyluniad gael ei gwblhau.

 

[image]

 

I mi mae'n hynod bwysig i weithio law yn llaw a gwrando ar gymaint o bobl ag y bo modd, gan gydweithio i greu ysgol y gallwn oll fod yn falch ohoni. 

Rydym ar hyn o bryd yn paratoi ar gyfer dwy noson agored, y bwriadwn eu cynnal ar 5 a 6 Gorffennaf yn Ffederasiwn Llanfihangel Glyn Derw, lle byddwn yn rhannu'r newyddion diweddaraf am y gwaith i agor Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd a dangos mwy ar y wisg ysgol.

Caiff y nosweithiau agored eu cynnal yn neuadd yr ysgol rhwng 5pm a 6pm.