Back
Penwythnos Fictoraidd yng Nghastell Caerdydd

 

Penwythnos Fictoraidd yng Nghastell Caerdydd

 

Mae gan Gastell Caerdydd enw fel un o dai hanesyddol pwysicaf yn y DU oherwydd ei addurniadau mawreddog ac urddasol, felly mae'n addas bod y Castell yn dathlu treftadaeth hynod Oes Fictoria mewn digwyddiad penwythnos arbennigddydd Sadwrn 20 - dydd Sul 21 Mai.

Ar y cyd, bu i'r gwŷr amlwg o Oes Fictoria, yr Arglwydd Bute a'r pensaer celfyddydol William Burges, drawsnewid Castell Caerdydd yn Gamelot Fictoraidd yng Nghymru. Codwyd Tŵr y Cloc eiconig, tyrau fel o hanes tylwyth teg ac addurnwyd y tu mewn yn dra chywrain a moethus.

Dros y penwythnos, bydd y Frenhines Fictoria ei hun yn ymddangos ac er mwyn rhoi blas go iawn ar yr oes, bydd y tlodion carpiog yn ail-greu bywydau'r werin fudr.Bydd y grŵp hanes byw penigamp yn dod â chaledi'r dosbarth gweithiol yn fyw ac yn dangos sut y bydden nhw'n ceisio crafu byw. Bydd adrodd hanesion, arddangosiadau coginio a chyfle i ailymweld â'r ystafelloedd hynod ar daith dywys yn dod â'r cyfnod pwysig hwn yn hanes y Castell yn fyw.