Back
Elw o £390,325 drwy'r cynllun Troseddau Traffig sy’n Symud yn 2016/17
 Elw o £390,325 drwy'r cynllun Troseddau Traffig sy’n Symud yn 2016/17

Mae ffigurau wedi’u rhyddhau yn dangos faint mae Cyngor Dinas Caerdydd wedi’i ennill drwy orfodaeth parcio a’r Cynllun Troseddau Traffig sy’n Symud (TTS) yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf.

O fis Ebrill 2016 i fis Ebrill 2017, mae’r ffigurau drafft yn dangos elw o £390,325. Cyfanswm yr arian a gafwyd oedd £4,721,125 ond daeth costau’r cynlluniau hyn i £4,330,800.

Mae ffigurau’n dangos y cafwyd cyfartaledd o £1,180,281 ym mhob chwarter yn y flwyddyn ariannol, gyda’r incwm mwyaf rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2016 pan gafodd yr awdurdod £1,421,337.

Dywedodd Matthew Wakelam, y Pennaeth Seilwaith a Gweithrediadau, sy’n rheoli’r cynllun: “Fel gyda holl gynlluniau'r Cyngor, mae costau gwasanaethau yn aml yn cael eu diystyru ac mae rhai’n dewis canolbwyntio ar y swm a dderbyniwyd yn unig. Gall hyn fod yn gamarweiniol.

 “Mae’r ffigurau drafft hyn – a gaiff eu harchwilio – yn dangos yn glir fod yr elw ariannol net ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf dan hanner miliwn o bunnoedd.

 “Mae pobl sy'n cael hysbysiad cosb am barcio'n anghyfreithlon yn rhoi defnyddwyr eraill y ffordd a cherddwyr mewn perygl, felly fe ddylent gael cosb ariannol.

 “Gyda’r cynllun Troseddau Traffig sy’n Symud, ni fyddai'n rhaid i ni gyflwyno cosbau ariannol petai defnyddwyr y ffordd yn cydymffurfio â Rheolau’r Ffordd Fawr.”

Ychwanegodd: “I wella trafnidiaeth gyhoeddus, rhaid i ni gael coridorau bws penodol fel bod teithio ar fws yn gyflymach ac yn haws i gymudwyr ac ymwelwyr â Chaerdydd.

 “Yn ddiweddar, rydyn ni wedi ehangu’r cynllun hwn i gymryd camau gorfodi yn erbyn defnyddwyr y ffordd sy’n troi’n anghyfreithlon. Mae hyn yn bwysig i sicrhau nad yw’r gyrwyr anghyfrifol hyn yn peryglu eraill.

 “Gofynnwn i holl ddefnyddwyr y ffordd gydymffurfio â Rheolau’r Ffordd Fawr fel y gallwn gadw Caerdydd i symud, lleihau tagfeydd a gwella seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus ledled y ddinas.”

Nodiadau i’r Golygydd:

  • Mae’r ffigurau drafft fel a ganlyn:
  • Chwarter 1 (mis Ebrill 2016 i fis Mehefin 2016) - Cafwyd refeniw gorfodaeth parcio o £457,036 a £638,352 drwy’r cynllun TTS.
  • Chwarter 2 (mis Gorffennaf 2016 i fis Medi 2016) - Cafwyd refeniw gorfodaeth parcio o £461,444 a £632,979 drwy’r cynllun TTS.
  • Chwarter 3 (mis Hydref 2016 i fis Rhagfyr 2016) - Cafwyd refeniw gorfodaeth parcio o £415,061 a £1,006,276 drwy’r cynllun TTS.
  • Chwarter 4 (mis Ionawr 2017 i fis Mawrth 2017) - Cafwyd refeniw gorfodaeth parcio o £349,357 a £760,620 drwy’r cynllun TTS.
  • Cyfanswm yr incwm a gafwyd drwy orfodaeth parcio oedd £1,682,898 gyda £3,038,227 drwy’r Cynllun TTS. Cyfanswm yr incwm oedd £4,721,125 a’r costau oedd £4,330,800, felly yr elw oedd £390,325.

 

 

 

(diwedd)