Back
Bydd Station Road yn Ystum Taf yn cau yr wythnos hon ar gyfer gwaith arwynebu
 Bydd Station Road yn Ystum Taf yn cau yr wythnos hon ar gyfer gwaith arwynebu

Bydd gwaith gosod arwyneb ffordd yn digwydd y tu allan i'r Siop Lidl newydd ar Station Road yn Ystum Taf y penwythnos hwn.

I hwyluso'r gwaith hwn, bydd Station Road ar gau o'r gyffordd â Hilton Place i'r gyffordd â Bridge Road/Gabalfa Road rhwng 7.00pm ac 11.00pm nos Sadwrn 6 Mai a hefyd dydd Sul 7 Mai rhwng 9.30am a 11.00pm.

Bydd arwyddion ffyrdd a dargyfeiriadau yn cael eu rhoi ar waith drwy Bridge Road, ymlaen i Ffordd Caerdydd, A48 Western Avenue, Merthyr Road, Northern Avenue a Pendwyallt Road, ymlaen i Park Road, yna Kelston Road ac ymlaen i Heol Don.

Hoffai'r Cyngor y Ddinas ddiolch i'r cyhoedd am eu hamynedd wrth i ni barhau i wella'r rhwydwaith ffyrdd i drigolion ledled y ddinas.

(diwedd)