The essential journalist news source
Back
27.
March
2024.
Llwyddiant yn yr Unol Daleithiau i wneuthurwyr ffilm o Wasanaethau Ieuenctid Caerdydd

 

27/3/2024 

 

Mae chwe pherson ifanc 13-17 oed o Wasanaethau Ieuenctid Caerdydd wedi dychwelyd o gyfnewidfa ieuenctid unigryw yn Carlsbad, Califfornia lle enillon nhw'r Wobr Rhagoriaeth Darlledu yn y Confensiwn Rhwydwaith Teledu Myfyrwyr.

Roedd y daith 11 diwrnod yn canolbwyntio ar wneud ffilmiau a mynychu'r confensiwn, a gynhaliwyd yng Nghanolfan Confensiwn Long Beach, a darparodd gyfoeth o gyfleoedd i'r egin wneuthurwyr ffilm ddatblygu sgiliau, cystadlu mewn cystadlaethau cenedlaethol, mynychu gweithdai gan arbenigwyr y diwydiant a rhannu diwylliant.

Dyfarnwyd y Gwobrau Rhagoriaeth Darlledu, a gyflwynwyd gan y Rhwydwaith Teledu Myfyrwyr i bobl ifanc Gwasanaethau Ieuenctid Caerdydd am eu gwaith ar Butetown Buzz, sioe newyddion a gyd-grëwyd gyda phobl ifanc lle maen nhw'n ysgrifennu sgriptiau amdani, ei ffilmio, yn gohebu ac yn golygu.

Mae'r gwobrau'n dathlu cyflawniad eithriadol mewn rhaglenni teledu a gynhyrchir gan fyfyrwyr, gan gydnabod creadigrwydd, arloesedd a sgiliau technegol ar draws gwahanol gategorïau, gan gynnwys newyddion, chwaraeon, adloniant a rhaglenni dogfen. Mae'r enillwyr yn arddangos y genhedlaeth nesaf o dalent yn y cyfryngau ac yn ysbrydoli rhagoriaeth mewn darlledu.

Tra yn California, cafodd y grŵp eu lletya gan deuluoedd Americanaidd, mynychodd yr ysgol, ymddangosodd ar sioe deledu ddyddiol a arweinir gan berson ifanc a chymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol gan gynnwys teithiau i Disneyland a Lego Land.

Dwedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Mae Gwasanaethau Ieuenctid Caerdydd yn arwain y ffordd mewn gwaith ieuenctid digidol, gan ymgysylltu'n llwyddiannus â phobl ifanc ledled y ddinas a'u cefnogi i ddysgu sgiliau newydd felcyflwyno, ffilmio, golygu, celf ddigidol a chreu cynnwys.

"Mae gweithio mewn partneriaeth yn chwarae rhan allweddol wrth ddarparu ystod o gyfleoedd cyffrous fel y gall pobl ifanc ddysgu am ddiwydiannau fel eSports, codio, cynhyrchu ffilmiau a DA.

"Mae'r rhaglen gyfnewid ieuenctid ddiweddaraf hon yn dyst i'r gwaith caled a'r ymrwymiad a ddangoswyd gan dîm y Gwasanaeth Ieuenctid i ddarparu cyfleoedd rhagorol i bobl ifanc yn yr ardaloedd y maent yn angerddol amdanynt. Mae'r daith hon wedi caniatáu i'r garfan honddatblygu hyder, cynyddu eu sgiliau digidol ac mae wedi eu dysgu i gydnabod faint y gallant ei wneud, wrth wneud ffrindiau gydol oes ac atgofion bythgofiadwy."

Yr haf hwn bydd Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn croesawu grŵp o bobl ifanc o America, gan gynnig cyfleoedd dysgu dan arweiniad cyfoedion o amgylch creu ffilmiau a darparu ystod o gyfleoedd dysgu diwylliannol fel y gallant ddysgu mwy am Gaerdydd a Chymru.

Mae Tîm Digidol Gwasanaethau Ieuenctid Caerdydd hefyd wrthi'n chwilio am gyfleoedd i barhau â chyfleoedd fel hyn gyda gobaith o gefnogi grwpiau pellach i'r Unol Daleithiau.