The essential journalist news source
Back
1.
March
2024.
Y pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr i bobl ddigartref Caerdydd
1/3/24

Ffwrn, beic, pasbort a siwt newydd. Gall eitemau gwerth cymharol fach wneud gwahaniaeth mawr i fywyd rhywun digartref. Ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni, byddwn yn lansio ymgyrch 'Y Pethau Bychain sy’n Gwneud Gwahaniaeth Mawr’, gan agor chwe phwynt cyfrannu newydd ar draws canol dinas Caerdydd i helpu i fynd i'r afael â digartrefedd ym mhrifddinas Cymru.

Mae’r ymgyrch hon yn rhan o ail-lansiad partneriaeth CAERedigrwydd rhwng FOR Cardiff ac elusennau a sefydliadau digartrefedd presennol sy’n mynd i'r afael â digartrefedd yng Nghaerdydd.

Wedi'i lansio gyntaf yn 2018, mae CAERedigrwydd wedi codi dros £12,000 ac wedi dosbarthu 32 o grantiau i sefydliadau ac elusennau yng Nghaerdydd sy'n gweithio gyda phobl sy'n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref.

Bydd chwe phwynt cyfrannu newydd ar draws canol dinas Caerdydd yn caniatáu i bobl ddefnyddio eu ffonau clyfar i sganio cod QR a gwneud taliad cyflym a hawdd yn uniongyrchol i gronfa CAERedigrwydd gan wybod y bydd 100 y cant o'u rhodd yn mynd yn uniongyrchol at gefnogi pobl sy'n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.

Rheolir cronfa CAERedigrwydd gan Sefydliad Cymunedol Cymru, sefydliad dielw annibynnol sy'n cefnogi grwpiau cymunedol ar lawr gwlad gyda chyllid i helpu i greu cydraddoldeb a chyfleoedd yng nghymunedau Cymru. Gall elusennau a sefydliadau yng Nghaerdydd wneud cais am grantiau rhwng £25 a £2,000 trwy Sefydliad Cymunedol Cymru i brynu eitemau hanfodol a hyfforddiant galwedigaethol i gefnogi pobl ar eu taith allan o ddigartrefedd.

Nawr am y tro cyntaf gall tîm Tai a Chymunedau Cyngor Caerdydd wneud cais am gyllid drwy CAERedigrwydd sy'n golygu y bydd mwy o bobl yn elwa ar y gronfa.

Yn ystod argyfwng costau byw digynsail, nod ymgyrch ‘Y Pethau Bychain sy’n Gwneud Gwahaniaeth Mawr’ yw dangos bod 'gwneud y pethau bychain' yn bwysig - athroniaeth graidd nawddsant Cymru.  Gall rhoddion bach i'r gronfa CAERedigrwydd i gyd wneud gwahaniaeth i fywydau'r rhai sy'n ddigartref a gall grantiau cyn lleied â £75 i brynu prawf adnabod helpu i newid bywydau pobl a lleihau digartrefedd yng Nghaerdydd.

Trwy gyfrannu i CAERedigrwydd, rydych chi'n helpu pobl fel Mark* a oedd yn ddigartref am dri mis ar ôl i berthynas deuluol chwalu. Cafodd ei gyfeirio at y Wallich a'i ailgartrefodd yn llwyddiannus ac mae'n rheoli'r denantiaeth yn dda. Gwnaeth y Wallich gais am grant i brynu ffwrn nwy i’w gartref newydd, sy'n golygu y gall wneud bwyd cartref i'w ferch, yn hytrach na dibynnu ar brydau microdon costus.

Un arall i elwa ar CAERedigrwydd yw Isabella*, a oedd mewn perygl o gamfanteisio troseddol ac a oedd yn dioddef problemau iechyd meddwl. Derbyniodd Llamau grant gan CAERedigrwydd i brynu beic iddi er mwyn caniatáu iddi deithio i gyfweliadau swydd a helpu i leihau ei gorbryder trwy fyw bywyd mwy egnïol.

Mae Sam* sydd wedi wynebu heriau o ran tai ers yn 17 oed hefyd wedi cael cymorth gan gronfa CAERedigrwydd. Derbyniodd The Wallich grant i brynu offer i Sam ddechrau busnes garddio a meddyg coed, gan ganiatáu iddo ddod yn hunangyflogedig ac yn annibynnol yn ariannol.

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau:  "Mae gan bobl yng Nghaerdydd dosturi aruthrol i'r rhai maen nhw'n eu gweld yn cysgu ar y stryd neu sy'n ddigartref ac rydyn ni'n gwybod eu bod nhw eisiau helpu.

Ychwanegodd: "Mae CAERedigrwydd yn ffordd gadarnhaol iawn o gefnogi pobl sy’n agored i niwed. Bydd rhoddion a wneir drwy'r cynllun yn helpu'r rhai sy’n cael eu cefnogi gan wasanaethau digartrefedd yn y ddinas i gael eu bywydau yn ôl ar y trywydd iawn. Rydym yn croesawu'r ail-lansiad hwn o’r cynllun yn fawr ac yn annog trigolion ac ymwelwyr i gyfrannu drwy'r pwyntiau cyfrannu newydd, gan gynnwys yn Hyb y Llyfrgell Ganolog ac ar draws canol y ddinas."

Dywedodd Richard Williams, Prif Weithredwr Sefydliad Cymunedol Cymru: "Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda FOR Cardiff i roi cymorth i'r rhai sy'n ddigartref yng Nghaerdydd. Rydym yn gwybod y gall yr hyn sy'n ymddangos fel rhodd fach gael effaith fawr a helpu i fod yn garreg gamu ar gyfer newid cadarnhaol.

Dywedodd Carolyn Brownell, Cyfarwyddwr Gweithredol (Dros Dro) FOR Cardiff: "Rydym yn gwybod bod pobl yng Nghaerdydd yn hael iawn, er gwaethaf y pwysau ariannol parhaus, ac maen nhw’n awyddus iawn i helpu'r rhai sy'n ddigartref yng nghanol y ddinas. Mae'r ymgyrch hon yn dangos y gall hyd yn oed rhoddion bach gael effaith enfawr wrth helpu i newid bywydau pobl a bydd pwyntiau cyfrannu cod QR newydd CAERedigrwydd yn ei gwneud hi'n gyflymach ac yn haws rhoi arian, gan wybod bod 100 y cant yn mynd yn uniongyrchol at gefnogi pobl ar eu taith allan o ddigartrefedd."

Mae sawl ffordd o gyfrannu, boed hynny'n sganio'r codau QR mewn pwyntiau cyfrannu yng nghanol y ddinas, mynd i wefan CAERedigrwydd, neu anfon DIFF3 mewn neges destun i 70331 i gyfrannu £3.

Mae’r pwyntiau rhodd yng nghanol y ddinas ar hyn o bryd yn:

  • Llyfrgell Ganolog Caerdydd
  • Yr Ais/Ardal Morgan – wrth ymyl TK Maxx
  • Marchnad Caerdydd
  • The Bike Lock, Plas Windsor
  • Mc Donalds Heol y Frenhines
  • Mc Donalds Heol Eglwys Fair

I ddysgu mwy am CAERedigrwydd a'r ymgyrch 'pethau bychain', ewch i CAERedigrwydd – Ymunwch â ni i fynd i'r afael â digartrefedd yng Nghaerdydd (forcardiff.com)


*Mae enwau wedi cael eu newid i ddiogelu hunaniaeth.