The essential journalist news source
Back
18.
January
2024.
Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn derbyn cydnabyddiaeth o fri

 

18/1/2024 

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd wedi derbyn y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid (MAGI) yng Nghymru, gan dderbyn y wobr arian.

Wedi'i lywodraethu gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA), mae'r MAGI yn wobr genedlaethol sy'n cefnogi ac yn cydnabod safonau gwell o ran darpariaeth a pherfformiad sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau gwaith ieuenctid.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Drechu Tlodi a Chefnogi Pobl Ifanc:   "Wrth ennill y wobr Marc Ansawdd Arian ar gyfer Gwaith Ieuenctid, mae Gwasanaethau Ieuenctid Caerdydd wedi dangos ei fod wedi hyrwyddo arfer cynhwysol, dathlu cydraddoldeb ac amrywiaeth ac wedi cynllunio darpariaeth i ddiwallu anghenion pobl ifanc. Roedd yr achrediad yn dilyn hunanasesiad yn erbyn cyfres o safonau ansawdd a llwyddo mewn asesiad allanol.

"Mae'r wobr yn cydnabod bod Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cael ei ategu gan ystod gadarn o bolisïau ac yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl ifanc, gan eu galluogi i ddysgu a datblygu sgiliau personol a chymdeithasol. Mae'n cymeradwyo'r gwaith o ddarparu gwasanaethau gan weithlu cymwys a phrofiadol priodol sy'n cynnwys pobl ifanc wrth wneud penderfyniadau.

"Mae ein Gwasanaethau Ieuenctid yn parhau â'u hymrwymiad i wella amrywiaeth ac ansawdd y cymorth a ddarperir i bobl ifanc ledled Caerdydd ac mae dealltwriaeth gweithwyr ieuenctid o'r cymorth sydd ei angen ar bobl ifanc yn helpu i lunio'r gweithgareddau a'r cyfleoedd sydd ar gael iddynt. Mae perthnasoedd cadarnhaol ar lefel leol rhwng staff a phobl ifanc yn allweddol."

Wrth siarad ar ran y tîm asesu, dywedodd Andrew Borsden, Swyddog Datblygu Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid, "Cafodd y ffaith bod Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn rhan weithredol o statws Dinas sy'n Dda i Blant Caerdydd argraff fawr ar aseswyr MAGI.

"Roedd cyfranogiad pobl ifanc mewn cynllunio gweithgareddau, ac mewn rolau arwain yn galonogol iawn. Nodwyd hefyd bod y defnydd o dechnolegau digidol yn ysbrydoledig ac yn greadigol iawn.

"Llongyfarchiadau i'r tîm cyfan ar y wobr haeddiannol hon."


Am fwy o wybodaeth am MAGI, gan gynnwys sut y gall eich sefydliad wneud cais, ewch iMarc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru (ewc.wales)