The essential journalist news source
Back
16.
January
2024.
Ysgol Gynradd Severn yn derbyn gwerthusiad cadarnhaol gan Estyn

  

16/1/2023

Mae Estyn wedi canmol Ysgol Gynradd Severn am ei hymrwymiad i greu amgylchedd diogel, cynhwysol sy'n paratoi disgyblion i gyfrannu'n weithredol mewn cymdeithas.

Yn ystod ymweliad yn ddiweddar, canfu arolygwyr Arolygiaeth Addysg Cymru nifer o gryfderau cadarnhaol yn yr ysgol gan gynnwys;

  • Amgylchedd Dysgu Cadarnhaol: Dywedodd disgyblion Ysgol Gynradd Severn eu bod yn mwynhau mynychu'r ysgol, gan nodi bod ymdeimlad o ddiogelwch a gofal a chafodd yr ysgol ei chanmol am ei hymrwymiad i gydraddoldeb a chynhwysiant.
  • Arweinyddiaeth Effeithiol: Mae'r pennaeth, a benodwyd ym mis Medi 2018, yn arwain yr ysgol gyda phroffesiynoldeb a thosturi. Mae llywodraethwyr yn cefnogi arweinwyr yn dda, yn rheoli gwariant yn ddiwyd ac yn cynnal diwylliant diogelu cadarn.
  • Ymgysylltu â Rhieni: Mae arweinwyr a staff Ysgol Gynradd Severn wedi sefydlu perthnasoedd cryf â rhieni a ganfyddir eu bod yn gwerthfawrogi'r gofal a'r arweiniad a ddarperir gan yr ysgol.
  • Ansawdd yr Addysgu: Mae llawer o athrawon yn Ysgol Gynradd Severn yn cynllunio gwersi ysgogol gydag amcanion dysgu clir, gan arwain at ddisgyblion yn gwneud cynnydd da, yn enwedig mewn llythrennedd a mathemateg.

Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad yn gadarnhaol, gyda chyfres o feysydd i'w gwella sy'n cynnwys;

  • Iechyd a Diogelwch: Mynd i'r afael â mater cynnal a chadw sy'n ymwneud â'r to.
  • Mecanwaith Adborth: Angen datblygu defnydd effeithiol o adborth i gefnogi cynnydd disgyblion a meithrin annibyniaeth.
  • Integreiddio Sgiliau Digidol a Rhifedd: Angen gwella cyfleoedd i ddisgyblion ddefnyddio eu sgiliau digidol a rhifedd ar draws y cwricwlwm.

Bydd yr ysgol nawr yn mynd i'r afael â'r argymhellion a ddarperir gan Estyn drwy gydweithio â'i harweinwyr, staff, yr Awdurdod Lleol a'r gymuned ehangach i wella'r profiad dysgu cyffredinol i'w disgyblion.

Dywedodd Nick Wilson, Pennaeth yr ysgol; "Rwy'n falch iawn o'n hadroddiad Estyn. Mae'n adlewyrchu'r gwaith tîm gwych, y gwaith caled a'r proffesiynoldeb a ddangosir gan yr holl staff, yn ddyddiol i wella canlyniadau i ddisgyblion.

"Mae'n fraint cael gweithio mewn cymuned ysgol mor amrywiol gyda rhieni a llywodraethwyr sy'n wirioneddol ymrwymedig i weithio gyda'r ysgol er mwyn cefnogi eu plant i gyflawni nid yn unig eu gwaith gorau ond i ddatblygu'n ddinasyddion caredig, galluog a moesegol gwybodus yn y dyfodol. Hoffwn ddiolch i'r holl randdeiliaid am eu hymrwymiad a'u cefnogaeth i helpu Ysgol Gynradd Severn i ddarparu'r addysg orau bosibl i'n disgyblion gwych."

Dywedodd Andy Roberts, Cadeirydd y Corff Llywodraethu: "Mae'n wirioneddol galonogol cael ein cydnabod am ein cyflawniadau yn un o'r cymdogaethau mwyaf amrywiol yng Nghymru. Fel rhiant a llywodraethwr, rwyf wedi gweld pa mor dda y mae staff, disgyblion a'u teuluoedd o bob cefndir yn gweithio gyda'i gilydd ac yn cefnogi ei gilydd i wneud yr ysgol hon yn gymuned go iawn."

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Mae Estyn wedi tynnu sylw at y nifer o ffyrdd y mae Ysgol Gynradd Severn yn darparu amgylchedd dysgu meithringar a chynhwysol i'w disgyblion.

Fe wnes i fwynhau clywed yn arbennig bod disgyblion yn dathlu amrywiaeth o ddiwylliannau a bod y gwerth a roddir ar gymuned amrywiol yr ysgol yn cynorthwyo datblygiad disgyblion fel dinasyddion gwybodus a moesegol sydd â dealltwriaeth gadarn o degwch a chydraddoldeb.

"Llongyfarchiadau i Bennaeth, staff a chymuned ehangach yr ysgol, bydd yr ysgol nawr yn cael ei chefnogi i fynd i'r afael ag argymhellion Estyn." 

 

Ar adeg yr arolygiad, roedd gan Ysgol Gynradd Severn 472 o ddisgyblion ysgol gynradd ar y gofrestr. Mae 28.3% o'r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, mae 10.1% wedi'u nodi fel rhai ag anghenion dysgu ychwanegol ac mae 53.2% o'r disgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.

Mae Estyn wedi mabwysiadu dull newydd o arolygu mewn ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion ledled Cymru.  Ni fydd adroddiadau arolygu bellach yn cynnwys graddau crynodol (e.e. 'Rhagorol', 'Da' neu 'Digonol') a byddant bellach yn canolbwyntio ar ba mor dda mae darparwyr yn helpu plentyn i ddysgu.

Mae'r dull newydd yn cyd-fynd â phersonoli'r cwricwlwm newydd i Gymru gydag arolygiadau'n cynnwys mwy o drafodaethau wyneb yn wyneb, gan roi llai o bwyslais ar ddata cyflawniad.

Mae Estyn o'r farn y bydd y dull arolygu newydd yn ei wneud yn haws i ddarparwyr gael mewnwelediadau ystyrlon fydd yn eu helpu i wella heb fod y sylw ar ddyfarniad.