The essential journalist news source
Back
10.
January
2024.
Strategaeth Cyfranogiad Newydd i wella ymgysylltiad y cyhoedd â'r Cyngor

10.01.24
Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi canlyniadau adolygiad cynhwysfawr i sut mae'n ymgysylltu â'r cyhoedd ac yn sicrhau bod eu barn yn cael ei hystyried yn y broses o wneud penderfyniadau.

Mae'r adolygiad o'i Strategaeth Cyfranogiad yn cyd-fynd â dyletswydd y Cyngor i annog pobl leol i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau a hyrwyddo ymwybyddiaeth o brif swyddogaethau'r Cyngor.

Dros 11 wythnos, rhwng mis Gorffennaf a mis Hydref y llynedd, cynhaliodd y Cyngor ymgynghoriad i fesur barn y cyhoedd ar berfformiad y Cyngor wrth ymgysylltu â nhw. Anfonodd arolwg ar-lein i 5,000 o aelodau'r Panel Dinasyddion a sicrhau bod copïau caled ohono ar gael yn eang yn Gymraeg, Saesneg, Pwyleg, Arabeg a Bengali.

Trefnodd gyfleoedd ymgysylltu wyneb yn wyneb hefyd gyda:

  • Phlant a Phobl Ifanc
  • Pobl Hŷn
  • Cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, a
  • Phobl sy'n ystyried eu bod yn anabl.

Erbyn diwedd yr ymgynghoriad, roedd y Cyngor wedi derbyn mwy na 1,300 o ymatebion, gyda chonsensws cryf (99.2%) bod cymryd rhan wrth lunio darpariaeth gwasanaethau yn bwysig.

Roedd y canfyddiadau eraill yn cynnwys:

  • Gwefan y Cyngor yw'r brif ffynhonnell wybodaeth am y Cyngor (80.1%)
  • Nid oedd dros hanner yr ymatebwyr yn dilyn y Cyngor na'u cynghorwyr lleol ar y cyfryngau cymdeithasol
  • Roedd ychydig dros hanner yr ymatebwyr (54.9%) yn gwybod pwy oedd eu cynghorwyr lleol
  • Roedd bron i dri chwarter (73%) yn teimlo y byddai 'Porth Democratiaeth' yn ddefnyddiol
  • Dywedodd ychydig dros hanner (50.1%) y byddai hyrwyddo cyfleoedd yn well i gymryd rhan a rhannu eu barn gyda'r Cyngor o fudd

Wrth ymgysylltu'n uniongyrchol â mwy na 200 o bobl o grwpiau sydd fel arfer heb gynrychiolaeth ddigonol, dywedon nhw mai diffyg ymwybyddiaeth o gyfleoedd, diffyg amser a diffyg cred y byddai'n gwneud gwahaniaeth fyddai'r rhwystrau mwyaf i gyfranogi.

Yn dilyn yr ymgynghoriad, mae'r Cyngor bellach yn cynnig nifer o newidiadau i'w Strategaeth Cyfranogiad 2023-27, gan gynnwys:

  • Mwy o gyfleoedd ymgysylltu wyneb yn wyneb â grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol
  • Dull mwy targedig o ymgysylltu, er mwyn osgoi 'blinder ymgynghori'
  • Datblygu rhaglen adborth i rannu canfyddiadau a chanlyniadau gyda'r rhai yr ymgynghorwyd â hwy
  • Datblygu rhaglen ymgysylltu rheolaidd gyda'r gymuned Fyddar a'r rhai sydd â nam ar eu golwg.
  • Defnyddio sianeli cyfryngau cymdeithasol presennol y Cyngor i hyrwyddo cyfleoedd i'r cyhoedd gymryd rhan a rhannu eu barn gyda'r Cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Julie Sangani, Aelod Cabinet y Cyngor dros Drechu Tlodi, Cydraddoldeb ac Iechyd y Cyhoedd a chefnogwr allweddol y Strategaeth Cyfranogiad, fod canlyniadau'r arolwg yn dangos bod y cyhoedd yn awyddus i gymryd mwy o ran yn y broses o wneud penderfyniadau ac ymgysylltu mwy â'r Cyngor trwy'r holl sianeli sydd ar gael.

"Mae'r Cyngor wedi bod yn cynnwys y cyhoedd ers blynyddoedd lawer wrth drafod polisi a phob agwedd ar fywyd yng Nghaerdydd," ychwanegodd. 

"Mae hyrwyddo cyfranogiad dinesig a rhoi llais i'r bobl wrth lunio'r penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau bob amser wedi bod yn flaenoriaethau allweddol i'r Cyngor hwn ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau ein bod yn clywed nid yn unig eu barn, ond hefyd eu barn ar sut y caiff eu sylwadau eu mesur."

Bydd y strategaeth yn cael ei thrafod yng nghyfarfod Pwyllgor Craffu Adolygu Polisi a Pherfformiad y Cyngor heddiw am 4pm. Bydd modd gwylio’r cyfarfod yn fyw hefyd fel podlediad drwy’r ddolen hon. I weld yr adroddiad llawn, dilynwch y ddolen yma . Bydd Cabinet y Cyngor hefyd yn ei drafod ddydd Iau 18 Ionawr am 2pm.