The essential journalist news source
Back
22.
September
2023.
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 22 Medi 2023

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, yn cynnwys:

  • Sesiynau Diwydiant Sŵn - helpu i fynd â gyrfaoedd yn y diwydiant cerddoriaeth i'r lefel nesaf 
  • Adroddiad Blynyddol ar y Gwasanaethau Cymdeithasol  - lwyddiannau allweddol staff, partneriaid a gofalwyr yn y 12 mis diwethaf.
  • DYDDiau Da o Haf - golwg yn ôl ar chwe wythnos o weithgareddau, digwyddiadau a phrofiadau i bobl ifanc

 

Sesiynau Diwydiant Sŵn

Mae trefnwyr Gŵyl Sŵn Caerdydd wedi cyhoeddi Sesiynau Diwydiant Sŵn, rhaglen o baneli a chyfleoedd hyfforddi i ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol sy'n ymwneud â'r diwydiant cerddoriaeth i fynd â'u gyrfa i'r cam nesaf.

Bydd y sesiynau hyn ddydd Sadwrn, 21 Hydref, rhwng 9:30am a 7pm yn Tramshed Tech. Wrth i'r ŵyl, sy'n ymestyn dros 20-22 Hydref, agosáu, anogir selogion i archebu eu lle ar gyfer diwrnod o sgyrsiau craff, paneli a chyfleoedd rhwydweithio. Mae sesiynau unigol am ddim, ac nid oes angen tocyn gŵyl.

Wedi'i harwain gan Glwb Ifor Bach a Phrifysgol De Cymru, a'i chefnogi gan Gyngor Caerdydd a Bwrdd Cerdd Caerdydd, nod y fenter yw meithrin ac esblygu'r sin gerddoriaeth Gymraeg, gan adleisio gweledigaeth Caerdydd o ganoli cerddoriaeth yn nhwf y ddinas a'i dyheadau Dinas Gerddoriaeth.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd a Chadeirydd Bwrdd Cerdd Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: "Mae Gŵyl Sŵn yn ymwneud â rhoi llwyfan i artistiaid newydd, ond mae angen hyrwyddwyr, labeli, rheolwyr a mwy ar y diwydiant cerddoriaeth hefyd - pobl sy'n deall popeth o gyllid a chyfraith i'r wasg a chyhoeddi, yn ogystal â'r datblygiadau arloesol diweddaraf mewn cynhyrchu a pherfformiad.

"Y sesiynau diwydiant hyn yw'r cyntaf o lawer o gyfleoedd cyffrous y byddwn yn eu cyflwyno dros y misoedd nesaf wrth i ni barhau i gyflawni strategaeth gerddoriaeth Caerdydd. Eu nod yw sicrhau cyflenwad o dalent, gan ddarparu cyfleoedd ac ysbrydoliaeth i bobl sydd newydd ddechrau, a chyda thechnoleg cynhyrchu a pherfformio yn newid yn gyflymach nag erioed, gan helpu'r rhai sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant i gadw'n barod ar gyfer y dyfodol, fel bod cerddoriaeth yng Nghaerdydd yn parhau i dyfu a ffynnu yn y blynyddoedd i ddod."

Yn ystod y digwyddiad, bydd arbenigwyr uchel eu parch o'r diwydiant cerddoriaeth ar draws Cymru, Llundain a thu hwnt yn arwain sesiynau a thrafodaethau. Gall cyfranogwyr ryngweithio a meithrin cysylltiadau â ffigurau blaenllaw o endidau diwydiant blaenllaw fel y Performing Right Society, The PRS Foundation, Phonographic Performance Limited, The Musicians' Union, Cyngor Celfyddydau Cymru, Anthem, Tŷ Cerdd, Prifysgol De Cymru,Fforwm Rheolwyr Cerddoriaeth, a Sŵn.

Bydd Fforwm Rheolwyr Cerddoriaeth(MMF), sy'n cynrychioli dros 1,500 o reolwyr cerddoriaeth y DU, yn hwyluso cyfweliad cyweirnod arbennig gyda Marcus Russell, sylfaenydd Ignition Management. Yn hanu o Lynebwy, mae Marcus yn sefyll allan fel un o mogwliaid cerddoriaeth mwyaf profiadol y DU. Ers sefydlu Ignition ym 1983, mae wedi cydweithio â bandiau enwog fel Electronic a The The, ac yn arbennig wedi llywio Oasis i enwogrwydd yn y '90au. Mewn partneriaeth ag Alec Mckinlay, mae portffolio rheoli presennol Marcus yn cynnwys artistiaid fel Noel Gallagher, Amy Macdonald, a Hard Fi. Yn ogystal, mae'n arwain yr annibynnol Ignition Records, sy'n adnabyddus am reoli datganiadau gan fandiau clodwiw fel Stereophonics, Far From Saints, a Courteeners.

Darllenwch fwy yma

 

Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae adroddiad blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Caerdydd wedi amlinellu rhai o lwyddiannau allweddol staff, partneriaid a gofalwyr yn y ddinas dros y 12 mis diwethaf.

Mae'r adroddiad hefyd wedi tynnu sylw at her barhaus y galw cynyddol am wasanaethau a chynnydd amlwg yng nghymhlethdod y materion sy'n wynebu pobl sydd angen help a chefnogaeth gan y gwasanaeth.

Er gwaethaf yr heriau, mae'r adroddiad yn tynnu sylw at nifer o gyflawniadau sylweddol y gwasanaethau plant ac oedolion, gan gynnwys:

Gwasanaethau Plant

  • 4,623 o achosion wedi'u cau, ac maent yn parhau ar gau (ym mis Mawrth 2023)
  • 93 o blant oedd yn derbyn gofal yn symud i leoliad byw'n annibynnol
  • Cytunwyd ar y Strategaeth ar gyfer 2023-26
  • Cydnabod gwelliannau mawr i'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid
  • Ymgorffori Canolfan Ymyriadau

Gwasanaethau Oedolion

  • Cwblhau 6,879 o gynlluniau cymorth a gofal a 2,831 o adolygiadau
  • Cynhaliwyd 1,247 o ddigwyddiadau i helpu pobl hŷn i gadw'n heini a chysylltu â'u cymuned gyda 13,459 o gyfranogwyr
  • Lansiwyd Dinas Gofal i roi gwybodaeth a chyngor i ofalwyr di-dâl
  • Sefydlu cynllun byw â chymorth iechyd meddwl newydd fel cam i lawr o ofal preswyl
  • Rhoddwyd gofal i 45 o bobl bob wythnos ar gyfartaledd a ryddhawyd o'r ysbyty
  • Arfer gorau mewn gofal dementia wedi'i wreiddio trwy adolygiadau cartref cyfan

Gwasanaethau Cymdeithasol

  • 97,116 o brydau bwyd wedi'u dosbarthu gan Pryd ar Glud trwy gydol y flwyddyn
  • Mae 753 o bobl wedi cofrestru gydag Academi Gofalwyr Caerdydd ers mis Hydref 2021, a helpwyd 135 o ofalwyr newydd i gael swydd yn 2022-23

Wrth sôn am yr adroddiad, dywedodd y Cynghorydd Ash Lister, yr Aelod Cabinet dros faterion Gwasanaethau Cymdeithasol, sy'n ymwneud â'r Gwasanaethau Plant: "Gwnaed cynnydd da yn y flwyddyn o ran cyflawni ein Strategaeth Gwasanaethau Plant - Ceisio Rhagoriaeth. Rydym wedi parhau i ymweld â gwasanaethau rheng flaen drwy gydol y flwyddyn, sydd wedi rhoi cipolwg i ni ar eu gwaith o ddydd i ddydd, yr heriau sy'n eu hwynebu a'r llwyddiannau y maent yn eu cyflawni. Rydym yn ddiolchgar iawn i'n holl staff a phartneriaid sy'n gweithio'n ddiflino i gefnogi'r bobl a'r teuluoedd sy'n derbyn ein gwasanaethau."

Ychwanegodd y Cynghorydd Norma Mackie, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Wasanaethau Oedolion: "Rwy'n falch o'r hyn a gyflawnwyd eleni drwy ein Strategaeth Heneiddio'n Dda a'n gwaith i ddod yn Ddinas sy'n Dda i Bobl Hŷn. Ni ellid bod wedi cyflawni hyn heb waith caled ein staff a chefnogaeth ein partneriaid, gwirfoddolwyr, y trydydd sector a darparwyr gofal, gan gynnwys gofalwyr di-dâl. Mae'r adroddiad yn dyst i'w holl waith caled."

"Mae llawer i'w wneud o hyd a byddwn yn parhau i weithio gyda'n gilydd i ddarparu'r arweinyddiaeth sydd ei angen i gefnogi ein gwasanaethau gofal cymdeithasol."

Darllenwch fwy yma

 

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn creu DYDDiau Da o Haf i gannoedd o bobl ifanc

Mae rhaglen 'DYDDiau Da o Haf' Caerdydd wedi rhoi chwe wythnos o weithgareddau, digwyddiadau a phrofiadau i gannoedd o bobl ifanc, gan roi cyfle iddynt wneud ffrindiau newydd a rhoi cynnig ar bethau newydd.

Roedd rhaglen Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig rhaglen gynhwysol, llawn hwyl o weithgareddau ar gyfer pobl ifanc 11-25 oed yng Nghaerdydd, yn cynnwys teithiau dydd, sesiynau blasu mewn crochenwaith, adeiladu, cerddoriaeth a harddwch, gwersylla, amrywiaeth o chwaraeon a mwy.

Cynhaliwyd y fenter o ganol mis Gorffennaf ar draws y ddinas, gan gynnig calendr cynhwysfawr o ddigwyddiadau drwy gydol gwyliau'r ysgol. Cymerodd Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd feddiant o'r Ganolfan Dŵr Gwyn Ryngwladol, cynhaliwyd grwpiau lles, gwersyll haf, gŵyl creu cynnwys, gweithgareddau creadigol a chynnal grwpiau cyfnewid ieuenctid o America a'r Almaen.

Mae rhaglen digwyddiadau'r haf yn rhan o gynnig ehangach gan Wasanaethau Ieuenctid Cyngor Caerdydd, sy'n cynnwys 7 canolfan ieuenctid, amrywiaeth o brosiectau ar draws y ddinas a chymorth arall, gan gynnwys darpariaeth un i un. Mae gan Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd 3,500 o aelodau Gwasanaeth Ieuenctid ac mae'n gwneud dros 40,000 o gysylltiadau â phobl ifanc bob blwyddyn.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Drechu Tlodi a Chefnogi Pobl Ifanc, y Cynghorydd Peter Bradbury; "Mae rhaglen digwyddiadau'r haf eleni wedi rhoi cyfle i gannoedd o bobl ifanc gael amrywiaeth eang o ddarpariaeth a chyfleoedd i ymgysylltu â nhw. Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd a phartneriaid yn parhau i gynnig gwasanaethau i bobl ifanc sy'n cynnwys clybiau ieuenctid mewn cymunedau fel Llaneirwg, Trelái a Chaerau, Llanedern, Butetown, Y Sblot, yn ogystal â phrosiectau ar draws y ddinas sy'n cynnwys gwaith ieuenctid dwyieithog, digidol ac ar y stryd.

"Mae ein prosiectau'n cynnig lle diogel i bobl ifanc ymlacio, dysgu sgiliau newydd a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau sy'n cynnwys coginio, celf a chrefft, cerddoriaeth a chwaraeon."

Bydd llawer mwy o weithgareddau, clybiau a chyfleoedd yn cael eu cynnal drwy gydol yr hydref. I gael rhagor o wybodaeth am Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd  ewch i'r wefan.