21.09.23
Mae adroddiad blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyngor Caerdydd wedi amlinellu rhai o lwyddiannau allweddol staff, partneriaid
a gofalwyr yn y ddinas dros y 12 mis diwethaf.
Mae'r adroddiad hefyd wedi tynnu sylw at her barhaus y galw cynyddol am wasanaethau a chynnydd amlwg yng nghymhlethdod y materion sy'n wynebu pobl sydd angen help a chefnogaeth gan y gwasanaeth.
Er gwaethaf yr heriau, mae'r adroddiad yn tynnu sylw at nifer o gyflawniadau sylweddol y gwasanaethau plant ac oedolion, gan gynnwys:
Gwasanaethau Plant
- 4,623 o achosion wedi’u cau, ac maent yn parhau ar gau (ym mis Mawrth 2023)
- 93 o blant oedd yn derbyn gofal yn symud i leoliad byw'n annibynnol
- Cytunwyd ar y Strategaeth ar gyfer 2023-26
- Cydnabod gwelliannau mawr i'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid
- Ymgorffori Canolfan Ymyriadau
Gwasanaethau Oedolion
- Cwblhau 6,879 o gynlluniau cymorth a gofal a 2,831 o adolygiadau
- Cynhaliwyd 1,247 o ddigwyddiadau i helpu pobl hŷn i gadw'n heini a chysylltu â'u cymuned gyda 13,459 o gyfranogwyr
- Lansiwyd Dinas Gofal i roi gwybodaeth a chyngor i ofalwyr di-dâl
- Sefydlu cynllun byw â chymorth iechyd meddwl newydd fel cam i lawr o ofal preswyl
- Rhoddwyd gofal i 45 o bobl bob wythnos ar gyfartaledd a ryddhawyd o’r ysbyty
- Arfer gorau mewn gofal dementia wedi'i wreiddio trwy adolygiadau cartref cyfan
Gwasanaethau Cymdeithasol
- 97,116 o brydau bwyd wedi’u dosbarthu gan Pryd ar Glud trwy gydol y flwyddyn
- Mae 753 o bobl wedi cofrestru gydag Academi Gofalwyr Caerdydd ers mis Hydref 2021, a helpwyd 135 o ofalwyr newydd i gael swydd yn 2022-23
Wrth sôn am yr adroddiad, dywedodd y Cynghorydd Ash Lister, yr Aelod Cabinet dros faterion Gwasanaethau Cymdeithasol, sy'n ymwneud â'r Gwasanaethau Plant: "Gwnaed cynnydd da yn y flwyddyn o ran cyflawni ein Strategaeth Gwasanaethau Plant - Ceisio Rhagoriaeth. Rydym wedi parhau i ymweld â gwasanaethau rheng flaen drwy gydol y flwyddyn, sydd wedi rhoi cipolwg i ni ar eu gwaith o ddydd i ddydd, yr heriau sy'n eu hwynebu a'r llwyddiannau y maent yn eu cyflawni. Rydym yn ddiolchgar iawn i'n holl staff a phartneriaid sy'n gweithio'n ddiflino i gefnogi'r bobl a'r teuluoedd sy'n derbyn ein gwasanaethau."
Ychwanegodd y Cynghorydd Norma Mackie, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Wasanaethau Oedolion: "Rwy'n falch o'r hyn a gyflawnwyd eleni drwy ein Strategaeth Heneiddio'n Dda a'n gwaith i ddod yn Ddinas sy'n Dda i Bobl Hŷn. Ni ellid bod wedi cyflawni hyn heb waith caled ein staff a chefnogaeth ein partneriaid, gwirfoddolwyr, y trydydd sector a darparwyr gofal, gan gynnwys gofalwyr di-dâl. Mae'r adroddiad yn dyst i'w holl waith caled."
“Mae llawer i'w wneud o hyd a byddwn yn parhau i weithio gyda'n gilydd i ddarparu'r arweinyddiaeth sydd ei angen i gefnogi ein gwasanaethau gofal cymdeithasol.”
Trafodwyd yr adroddiad yng nghyfarfod pwyllgor Cabinet y Cyngor heddiw.
Mae’r adroddiad llawn i’w weld yma nawr.